Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Anhwylder Ymwybyddiaeth Cyfnod Estynedig (PDOC)

Mae Gwasanaethau Arbenigol PDOC wedi'u lleoli o fewn y Gwasanaethau Niwroadsefydlu cleifion mewnol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl). Yn rhan o’r NRU, rydym yn cwmpasu ardal ddaearyddol ehangach, gan weld cleifion sy’n byw yn Ne Cymru.  

Mae gwasanaeth PDOC yn cynnig cymorth tîm amlddisgyblaethol i unigolion â PDOC, timau trin lleol a theuluoedd/gofalwyr. Rydym yn cefnogi drwy gydol y camau acíwt cychwynnol, asesu a rheoli arbenigol, a gwasanaethau cymunedol lle bo'n briodol.  

Mae’r tîm PDOC yn cynnwys:  

  • Arweinydd Clinigol Therapi 

  • Nyrsys Clinigol Arbenigol 

  • Niwrolegydd Ymgynghorol 

  • Seicolegydd 

  • Therapyddion / Aseswyr PDOC hyfforddedig (Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Therapyddion Galwedigaethol) 

  • Deietegydd 

  • Ffisiotherapydd 

  • Gweinyddwr 

Gweler taflen Gwasanaeth Arbenigol PDOC yma:  PDOC WELSH

Dilynwch ni