Mae'r dudalen hon ar gyfer cleifion a'u teuluoedd/gofalwyr sy'n cael eu hatgyfeirio at y WSCIRC. Os ydych chi'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd eisiau atgyfeirio claf, defnyddiwch y ddolen ganlynol National Spinal Cord Injury Database.
Mae Canolfan Adsefydlu Cymru ar gyfer Anafiadau i Fadruddyn y Cefn (WSCIRC) wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl). Dyma'r unig ganolfan adsefydlu yng Nghymru ar gyfer anafiadau i fadruddyn y cefn, ac efallai y byddwch chi'n dal i glywed hi'n cael ei galw'n Rookwood (lle roedd wedi'i lleoli gynt).
Mae'r ganolfan yn cynnig dull tîm amlddisgyblaethol o adsefydlu ac yn darparu adolygiad a gofal gydol oes i bobl sydd ag anaf i fadruddyn y cefn. Mae adsefydlu yn broses o addysgu, galluogi a chefnogi unigolion (a'u teuluoedd) i wneud y mwyaf o annibyniaeth a dod yn arbenigwyr yn eu cyflwr eu hunain a sut i’w reoli.
Ein hathroniaeth eang yw gweithio gydag unigolion i'w helpu i:
· Wneud y mwyaf o’u hadferiad niwrolegol a’u haddasiad i’w hanaf.
· Dysgu am eu hanaf a sut i’w reoli trwy addysg ffurfiol ac anffurfiol.
· Cyflawni'r lefel ddiogelaf posibl o annibyniaeth gorfforol.
· Datblygu sgiliau hunanreoli h.y. cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am gynnydd ym mhob agwedd ar adsefydlu a chynllunio rhyddhau i'r cartref.
· Cymryd rhan yn ystyrlon ac yn optimaidd yn eu bywydau cartref, cymunedol a chymdeithasol.
Mae'r WSCIRC yn rhan o rwydwaith o ganolfannau arbenigol ar gyfer anafiadau i fadruddyn y cefn ledled y DU ac Iwerddon. Rydym yn gwasanaethu De, Gorllewin a rhan o Ganolbarth Cymru a chaiff Gogledd Cymru ei wasanaethu gan Groesoswallt.
Am fwy o wybodaeth am y canolfannau eraill, cliciwch yma
Canolfan Adsefydlu Cymru ar gyfer Anafiadau i Fadruddyn y Cefn
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ffordd Penlan
Penarth
CF64 2XX
Rhif ffôn Ysbyty: 02920711711
Rhif ffôn tim gweinyddol y ganolfan: 02921827624
Rhif ffôn derbynfa ward gorllewin 8: 02921827690
Mae maes parcio aml-lawr gyferbyn â mynedfa adran cleifion allanol WSICRC sy'n cynnwys lleoedd parcio i bobl anabl. Am ragor o wybodaeth am Ysbyty Athrofaol Llandochau defnyddiwch y ddolen ganlynol Ysbyty Athrofaol Llandochau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro