Dyddiad: 11 a 12 Mehefin 2026.
Wedi'i gynnal gan: Canolfan Adsefydlu Cymru ar gyfer Anafiadau i Fadruddyn y Cefn, Caerdydd.
lleoliad: Gwesty a Sba Holland House, 24-26 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0DD.
Mae Canolfan Adsefydlu Cymru ar gyfer Anafiadau i Fadruddyn y Cefn yn falch o gynnal Cynhadledd Guttmann 2026 gyda'r thema
Newid mewn Dyfodol Cynaliadwy
Mae'r gynhadledd yn dod a holl brif weithwyr proffesiynol ynghyd o'r gwahanol feisydd adsefydlu ar gyfer anaf i fadruddyn y cefn.
Galwad am Bapurau: Cyflwyniadau Llafar a Phoster
Mae ein thema eleni yn cwmpasu dulliau sy’n ymwybodol o oedran a rhywedd, parch at niwroamrywiaeth, integreiddio gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol, a therapïau sy’n seiliedig ar y celfyddydau. Ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu gofal iechyd ac addysg gynaliadwy a theg, mae’r themâu hyn yn adlewyrchu gweledigaeth holistaidd i wella ansawdd bywyd ac annibyniaeth weithredol ar gyfer y gymuned SCI amrywiol yn 2025 a thu hwnt.
• Ystyriaethau oedran, rhywedd a niwroamrywiaeth
• Datblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg
• Rôl y celfyddydau
• Cynaliadwyedd a gofal cynhwysol
1. Croesewir crynodebau ar ymchwil, profiad, arloesedd ymarfer clinigol, datblygu canllawiau/polisïau clinigol, datblygu archwiliadau/gwasanaethau, arloesedd ym maes addysg.
2. Rhaid cyflwyno’r crynodebau erbyn 28 Chwefror 2026.
3. Dylai crynodebau fod rhwng 250 a 400 o eiriau.
4. Dylech gynnwys gwybodaeth am: Math o Grynodeb (Poster/papur), Teitl, Enw(au) yr Awdur(on), Cysylltiad sefydliadol yr awdur(on), Cefndir yr astudiaeth/prosiect, Nodau, Dulliau, Canlyniadau, Casgliad, Cyfeiriadau. Profiad mewn unrhyw fformat.
5. Dylech gynnwys eich enw, rôl, cyfeiriad e-bost a bywgraffiad byr (50 gair) gyda’ch cyflwyniad.
6. Os hoffech gyflwyno crynodeb, anfonwch e-bost at Guttmann2026.Cav@wales,nhs.uk am gopi o'r ffurflen gyflwyno, gan nodi eich bod am gyflwyno yn y Gymraeg neu Saesneg gyda'r teitl 'Abstract Submission'.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.