Mae CAF 24/7 yn wasanaeth arloesol yng Nghaerdydd a’r Fro sy’n rhoi mynediad i gleifion sydd angen gofal brys, neu ofal y tu allan i oriau, at glinigwyr sy’n gallu asesu symptomau’n briodol a threfnu i’r camau ystyrlon nesaf gael eu rhoi ar waith. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.
Gellir cael mynediad at CAF 24/7 drwy ffonio 111.
Os yw claf yn teimlo’n sâl ac angen gofal brys, fe’u cynghorir i wirio eu symptomau ar-lein gan ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG 111 Cymru, https://111.wales.nhs.uk/SelfAssessments/ neu ffonio 111 os nad yw’n argyfwng sy’n bygwth bywyd, ond ei fod yn fater brys.
Mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999
Yng Nghaerdydd a’r Fro, rhaid i chi ffonio GIG 111 Cymru yn gyntaf i gael mynediad at yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau, neu os oes angen gofal brys arnoch y tu allan i oriau.
Drwy ffonio 111, bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac yn eich helpu i gael y cymorth iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Bydd y sawl sy’n galw yn derbyn cyngor iechyd dros y ffôn ac os oes angen asesiad pellach, bydd clinigwr o CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl.
Os oes angen i chi gael eich gweld yn y Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys (Tu Allan i Oriau), neu os oes angen asesiad arnoch yn yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau, bydd clinigwyr CAF 24/7 yn trefnu hyn i chi.
Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch iechyd meddwl ac rydych yn ansicr ble i droi, drwy ffonio 111 a phwyso opsiwn dau, byddwch yn cael eich trosglwyddo at ymarferydd iechyd meddwl a lles penodedig.
Mae’r rhif yn rhad ac am ddim i’w ffonio o linell dir a ffôn symudol, a chynigir cymorth iechyd meddwl brys, cyngor a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio adnoddau a all helpu.
Nid yw’r rhif 111 Pwyswch 2 yn disodli gwasanaethau iechyd meddwl presennol ond mae’n adnodd defnyddiol i gefnogi a chyfeirio pobl pan fyddant yn wynebu argyfwng newydd neu’n ansicr gyda phwy i gysylltu.