Neidio i'r prif gynnwy

Mewnblaniad cochlear

 

Croeso i Raglen Mewnblaniadau Cochlear i Oedolion De Cymru!

Yma gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth am fewnblaniadau cochlear a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Defnyddiwch y tabiau isod i gael rhagor o wybodaeth

 

Manylion Cyswllt

Os hoffech gysylltu â’r tîm mewnblaniadau cochlear i oedolion, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol.

 

implantable.devices.cav@wales.nhs.uk

 

Fel arall, dyma’r rhifau ffôn:

 

                Adran Awdioleg:

Rhif ffôn:                             02921 843179

Neges destun:                   0780 567 0359

 

Tracy Hughes (gweinyddwr y rhaglen): 02921 844563 (Mawrth-Iau)

 

Argyfwng Meddygol

Os oes gennych chi argyfwng meddygol, cysylltwch â’ch Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys leol. Os oes gennych bryder meddygol yn ystod oriau gwaith, cysylltwch â’r Tîm Mewnblaniadau Cochlear gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Y tu allan i oriau gwaith arferol, cysylltwch â Gwasanaeth 111 GIG Cymru am gyngor.

Beth i’w wneud os caiff batri ei lyncu’n ddamweiniol:

  • Os bydd batri yn cael ei lyncu, ewch i gael sylw meddygol ar unwaith yn eich Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys leol.
  • Peidiwch â bwyta nac yfed nes y gall pelydr-X bennu a oes batri yno.
  • Os oes dal gennych becyn y batri neu’r ddyfais sy’n cynnwys y batri, ewch â nhw gyda chi i helpu’r meddyg i nodi’r math o fatri a’r cemegau.

 

Batris

Mae batris tafladwy ar gael gennym ni a gellir gwneud cais amdanynt drwy ein cyfeiriad e-bost neu ein rhifau ffôn, sy’n cael eu rhestru uchod. Fodd bynnag, rydym yn argymell defnyddio’r batris y gellir eu hailwefru pan fyddant yn cael eu darparu.