Mae'r Gyfarwyddiaeth Gerontoleg Glinigol (sef yn flaenorol y Gyfarwyddiaeth Gofal Acíwt a Chanolradd i Bobl Hŷn neu OPAIC) yn eistedd ym Mwrdd Clinigol Meddygaeth BIP Caerdydd a'r Fro. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys naw ward a thri Ysbyty Dydd sydd wedi'u lleoli ar bedwar safle ysbyty.
Yn ogystal â'r gwasanaethau cleifion mewnol ac Ysbyty Dydd, mae gan y Gyfarwyddiaeth wasanaethau cleifion allanol ar gyfer Clefyd Parkinson a Cholli Cof a hefyd Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed (ECAS).
Ein nod yw cyflenwi gofal rhagorol, diogel, effeithiol a thosturiol i'r rheini y mae gofyn cymorth arnynt i gyrraedd eu potensial i wella ac adsefydlu, gan ddefnyddio sgiliau'r Tîm Amlddisgyblaethol a chynnwys y claf / teulu / gofalwr.
Gan ddarparu cymorth adsefydlu penodedig i gleifion, mae Cadw Fi’n Iach wedi cael ei dylunio i gynnig cyngor ac arweiniad ar adsefydlu, gwella a hunanreoli i gleifion ar draws Caerdydd a’r Fro.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.keepingmewell.com.
Swyddfa'r Gyfarwyddiaeth
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ffordd Penlan
Llandochau
CF64 2XX
Ffôn: 029 2071 6378 / 6066