Mae’r Adran Imiwnoleg yn darparu gwasanaeth eang ar gyfer ymchwilio, rhoi diagnosis a thrin cyflyrau sy’n deillio o gamweithrediad y system imiwnedd. Mae integreiddio gwasanaethau labordy a chlinigol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth profi arloesol yn y labordy, sy’n hanfodol wrth roi diagnosis ar gyfer clefydau imiwnyddol cymhleth, a’u monitro. Yn glinigol, mae dau brif faes yr ydym yn arbenigo ynddynt: Alergedd a diffyg imiwnedd sylfaenol.
Mae alergedd yn deillio o ymateb imiwnyddol i sylwedd a fyddai’n ddiogel fel arall. Rydym yn cynnig clinigau cleifion allanol ar gyfer rhoi diagnosis a rheoli alergeddau, yn cynnwys imiwnotherapi dadsensiteiddio lle bo’n briodol. Anaffylacsis yw elfen fwyaf difrifol clefyd alergaidd, ac mae canllawiau Cyngor Dadebru’r DU yn datgan y dylai pob claf sydd wedi dioddef achos o anaffylacsis gael ei atgyfeirio at glinig alergedd arbenigol er mwyn nodi unrhyw sbardunau, lleihau’r risg o achosion yn y dyfodol a pharatoi’r claf i reoli unrhyw achosion yn y dyfodol.
Mae’r adran hefyd yn cynnig triniaeth i gleifion sydd ag wrticaria ac angioedema nad yw’n alergaidd (er enghraifft wrticaria digymell cronig).
Mae diffyg imiwnedd sylfaenol (PID) yn cynrychioli sbectrwm eang o gyflyrau a difrifoldeb. Mae diagnosis a thriniaeth brydlon yn hanfodol i helpu i osgoi niwed i organau terfynol fel bronciectasis. Ceir oedi sylweddol yn aml mewn diagnosis ac mae angen mynegai uchel o amheuaeth i ganfod y cyflyrau prin hyn. Mae’r Gymdeithas Diffyg Imiwnedd Ewropeaidd wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol ar ddiagnosis PID i helpu i nodi’r rhai hynny allai elwa ar ymchwiliad pellach.
Mae’r Labordy Imiwnoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cynnal dros 250,000 o brofion y flwyddyn i alluogi clinigwyr i roi diagnosis a monitro ystod eang o gyflyrau imiwnoleg yn cynnwys alergeddau, diffyg imiwnedd ac awtoimiwnedd. Rydym hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o brofion ategol. Ceir gwybodaeth bellach ar Wefan y Labordy Imiwnoleg