Mae'r Adran Addysg Feddygol yn falch o gyhoeddi bod yr ap CAVMedEducation a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer Meddygon Iau mewn Hyfforddiant bellach ar gael i'w lawrlwytho trwy Google Play ac Apple App Store.
Byddem yn annog pob Meddyg Iau i lawrlwytho'r ap hwn gan y bydd yn darparu mynediad hawdd at lawer o wybodaeth ac adnoddau a fydd yn helpu gyda'ch hyfforddiant.
Ar ôl i chi lawrlwytho'r ap, peidiwch ag analluogi'r hysbysiadau gwthio - gallwn eich sicrhau na fydd rhybuddion niferus ar hap, ac ni anfonir unrhyw wybodaeth am unrhyw faterion gwasanaeth clinigol trwy'r ap.