Mae gofal sylfaenol yn aml yn cael ei ystyried fel 'drws ffrynt' y gwasanaeth gofal iechyd, gan ddarparu cyngor gofal iechyd i gleifion, triniaeth a rheolaeth yn eu cymuned.
Mae gofal sylfaenol yn cynnwys ymarfer cyffredinol, fferylliaeth gymunedol, gwasanaethau deintyddol ac optometreg (iechyd y llygaid).
Mae gan bob aelod o’r tîm gofal sylfaenol sgiliau ac arbenigedd mewn gwahanol feysydd, sy’n eich galluogi i gael y cymorth iawn, gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn, y tro cyntaf.
Os nad ydych chi’n siŵr pa aelod o’r tîm Gofal Sylfaenol yw’r person gorau i chi fynd i’w weld, gallwch gwrdd â’r tîm isod a chael rhagor o wybodaeth am sut y gallant eich helpu.
Os byddwch yn ffonio eich Practis Meddyg Teulu byddwch yn siarad â Derbynnydd Meddyg Teulu. Mae derbynnydd meddyg teulu wedi’i hyfforddi i ofyn cwestiynau i chi am eich cyflwr gofal iechyd er mwyn asesu eich angen a sicrhau eich bod yn cael y cymorth iawn, gan y person iawn, y tro cyntaf.
Os nad ydych yn siŵr pwy sydd angen i chi ei weld, gall derbynnydd meddyg teulu eich helpu oherwydd efallai nad eich meddyg teulu fydd y person iawn i chi ei weld bob amser.
Dyma Debbie Reid, ein derbynnydd Meddyg Teulu:
Mae'r fideo yma nawr ar gael yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL). Cliciwch y ddolen yma i wylio'r fersiwn BSL o'r fideo yma.
Mae eich Nyrs Ymarfer Cyffredinol wedi'i lleoli yn eich Practis Meddyg Teulu a gall derbynnydd Meddyg Teulu drefnu apwyntiad i chi gyda'r nyrs ar ôl clywed eich anghenion gofal iechyd.
Byddech fel arfer yn mynd at eich nyrs ymarfer cyffredinol i gael gofal clwyfau, cyngor ar ddulliau atal cenhedlu ac adolygiadau, imiwneiddiadau, monitro gwaed ac adolygiadau salwch cronig, fel asthma a diabetes.
Dyma Fiona Morse, ein Nyrs Ymarfer Cyffredinol yn siarad rhagor am rôl nyrs ymarfer cyffredinol ac am sut y gallai fod yn Ddewis Sylfaenol i chi:
Mae'r fideo yma nawr ar gael yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL). Cliciwch y ddolen yma i wylio'r fersiwn BSL o'r fideo yma.
Byddech fel arfer yn mynd at eich optometrydd os oes gennych broblemau ag iechyd eich llygaid fel anafiadau, poen, chwyddo, colli golwg neu amharu ar y golwg. Gallwch ddod o hyd i’ch optegydd agosaf drwy ddefnyddio ein Cyfeiriadur Gwasanaethau Iechyd lleol.
Dyma Clare Pearce, ein Hoptometrydd yn siarad rhagor am y rôl ac am sut y gallai fod yn Ddewis Sylfaenol i chi:
Mae'r fideo yma nawr ar gael yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL). Cliciwch y ddolen yma i wylio'r fersiwn BSL o'r fideo yma.
Byddech fel arfer yn mynd at eich deintydd os oes gennych ddannoedd, deintgig poenus neu sy’n gwaedu, cefnddant sy’n peri trafferth, sensitifrwydd yn y dannedd neu fathau eraill o boen wynebol. Gallwch ddod o hyd i’ch deintydd agosaf drwy ddefnyddio ein Cyfeiriadur Gwasanaethau Iechyd lleol.
Dyma Dr Emyr Roberts, ein Deintydd yn siarad rhagor am y rôl ac am sut y gallai fod yn Ddewis Sylfaenol i chi:
Mae'r fideo yma nawr ar gael yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL). Cliciwch y ddolen yma i wylio'r fersiwn BSL o'r fideo yma.
Dylech fynd at eich fferyllydd cymunedol yn y lle cyntaf i gael cyngor gofal iechyd neu driniaeth dros y cownter ar gyfer mân salwch, fel annwyd, dolur gwddf, cur pen neu ddolur rhydd.
Gall eich fferyllydd cymunedol hefyd ddarparu triniaeth neu gyngor ar gyfer anhwylderau cyffredin, dulliau atal cenhedlu brys a thrwy’r geg a gall rhai fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol ragnodi'r feddyginiaeth angenrheidiol, heb fod angen i chi wneud apwyntiad gyda meddyg teulu.
Dyma Sunesh Mistry, ein Fferyllydd Cymunedol yn siarad rhagor am y rôl ac am sut y gallai fod yn Ddewis Sylfaenol i chi:
Mae'r fideo yma nawr ar gael yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL). Cliciwch y ddolen yma i wylio'r fersiwn BSL o'r fideo yma.
Os oes Fferyllydd Practis yn eich meddygfa, efallai y byddwch yn eu gweld os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch eich meddyginiaeth.
Gall Fferyllydd Practis siarad â chi am eich meddyginiaeth, cynnal adolygiadau a sicrhau ei bod yn gweithio'n briodol i chi. Trwy weithio'n agos gyda Meddygon Teulu, Nyrsys Practis a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gall Fferyllydd Practis eich cefnogi i sicrhau bod eich cyflwr yn cael ei reoli'n effeithiol a'ch bod yn hyderus wrth ddefnyddio'ch meddyginiaeth.