Neidio i'r prif gynnwy

Llawdriniaeth wedi'i Diogelu

Rydym wedi gwneud llawer o waith i greu ardaloedd "gwyrdd" penodol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau i alluogi cleifion i gael llawdriniaeth frys ar yr un pryd â'u diogelu nhw, eu teuluoedd a'n staff rhag COVID-19. Mae staff sy'n gweithio yn yr ardaloedd hyn yn cael eu cadw ar wahân i weddill y Bwrdd Iechyd Prifysgol ac nid ydynt yn gadael eu hardaloedd yn ystod eu sifft er mwyn lleihau perygl haint i'r eithaf. 


Bydd gwasanaethau llawfeddygol yn parhau fel a gynlluniwyd yn ystod y cyfnod atal byr, felly os trefnwyd i chi gael llawdriniaeth, dylech baratoi ar ei chyfer yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddwyd i chi oni bai bod y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Bydd yn ofynnol i gleifion sy'n cael llawdriniaeth hunanynysu am bythefnos cyn y driniaeth a chael prawf COVID-19 72 awr cyn cael eu derbyn i'r ysbyty. I gael rhagor o wybodaeth am lawdriniaeth yn ystod y cyfnod atal byr, cliciwch yma.
 

Dilynwch ni