Sylwch fod y dudalen we hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Yn ystod y pandemig COVID-19 rydym wedi parhau i ddarparu gofal a thriniaethau brys i’n cleifion, er bod llawer o’n hapwyntiadau a’n triniaethau mwy arferol wedi cael eu gohirio.
Rydym wedi bod yn mynd ati’n araf i ailddechrau llawer o’r gwasanaethau a gafodd eu hatal dros dro, er y gallai’r ffordd y caiff y gwasanaethau eu cynnal ar hyn o bryd fod wedi newid i’n helpu i sicrhau ein bod yn cadw ein staff a’n cleifion yn ddiogel.
Yn yr un modd â sefydliadau eraill y GIG, byddwn yn trefnu triniaethau cleifion yn nhrefn eu blaenoriaeth o safbwynt clinigol. Fodd bynnag, bydd angen i gleifion fod yn barod i aros yn hirach nag y byddent wedi aros cyn y pandemig COVID-19.
Cliciwch ar un o’r gwasanaethau isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae ein meddygfeydd yn dal i fod ar agor, ond gall y ffordd y byddwch yn gweld eich meddyg teulu fod yn wahanol. Pan fydd angen, bydd apwyntiad wyneb yn wyneb ar gael ond efallai y cynigir ymgynghoriad dros fideo, e-bost neu ffôn i chi yn lle hynny. Yn dibynnu ar eich angen, efallai y gofynnir i chi siarad ag aelod arall o'n tîm Gofal Sylfaenol a allai fod yn fwy addas i'ch helpu.
Bydd y Derbynnydd Meddyg Teulu yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi am eich cyflwr, i helpu i sicrhau eich bod yn gweld y person iawn, y tro cyntaf. Mae hyn oherwydd y gallai'r person iawn ar gyfer eich cyflwr fod yn aelod arall o'n tîm Gofal Sylfaenol. Gallwch ddarganfod mwy am ein tîm Gofal Sylfaenol a phwy yw eich Dewis Sylfaenol, trwy edrych ar y dudalen we bwrpasol hon.
Mewn meddygfeydd, fe'ch cynghorir o hyd i wisgo mwgwd yn yr ystafelloedd aros ac ymgynghori a dilyn unrhyw ganllawiau sydd gan y feddygfa. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi, cleifion eraill a staff y feddygfa.
Bydd practisau deintyddol y GIG ledled Caerdydd a’r Fro yn parhau i ddarparu gofal deintyddol yn unol â Chanllawiau Deintyddol Llywodraeth Cymru.
Os ydych yn dymuno cofrestru gyda deintydd y GIG ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, gallwch bellach gofrestru ar restr aros y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol. Gallwch gael mynediad at y ffurflen gofrestru drwy glicio yma*. Ar ôl llenwi’r ffurflen hon, cewch eich ychwanegu’n awtomatig at y rhestr aros a bydd practis ger eich cyfeiriad cartref yn cysylltu â chi pan fydd lle ar gael.
Os oes angen triniaeth neu gyngor deintyddol brys arnoch, gallwch ffonio ein llinell ddeintyddol frys ar 0300 10 20 247.
*Sylwer, mae’r ffurflen hon ar gyfer trigolion Caerdydd a’r Fro yn unig.
Eich Optometrydd lleol yw eich Dewis Sylfaenol ar gyfer pob cyflwr sy’n ymwneud ag iechyd y llygaid.
Os oes gennych chi broblem gyda’ch golwg, neu os ydych chi’n profi unrhyw boen llygaid, anaf neu chwydd, mae gan eich Optometrydd lleol yr offer a’r profiad i archwilio, gwneud diagnosis, trin a helpu i reoli eich anghenion gofal llygaid.
I ddod o hyd i’ch optegydd lleol yng Nghaerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen we hon.
Bydd fferyllfeydd ar agor yn ôl yr arfer a nhw ddylai fod yn ddewis sylfaenol i chi am gyngor ar fân anhwylderau. Cofiwch wisgo masg a chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol wrth ymweld â’ch fferyllfa.
I gael cyngor, gwybodaeth neu feddyginiaeth dros y cownter ar gyfer mân salwch, eich fferyllydd cymunedol ddylai fod eich Dewis Sylfaenol.
Mae gan fferyllwyr cymunedol wybodaeth helaeth am feddyginiaethau, sut maent yn gweithio, sut i’w cymryd, sut allent effeithio arnoch, a sut maent yn rhyngweithio â chyffuriau eraill.
Gallwch hefyd gael mynediad at ystod o wahanol wasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol ar draws Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys y Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu, y Gwasanaeth Dulliau Atal Cenhedlu Drwy’r Geg, a’r Gwasanaeth Mân Anhwylderau.
Mae ein gwasanaeth gastroenteroleg a hepatoleg yn darparu gofal i drin ac atal clefydau gastroberfeddol (stumog a’r coluddion) a hepatolegol (yr afu, coden y bustl, system y bustl a’r pancreas).
I gael rhagor o wybodaeth am Gastroenteroleg a Hepatoleg, ewch i: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/gastroenterology-hepatology-and-endoscopy/
Diweddarwyd ddiwethaf 20/0722
Mae endosgopi yn hanfodol i wneud diagnosis o ganser oesoffagaidd a chanser y stumog.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Endosgopi, ewch i: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/gastroenterology-hepatology-and-endoscopy/
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Mae ein gwasanaeth Endosgopi wedi bod yn cynnal clinigau ychwanegol felly gall hyn olygu y cewch eich gwahodd am apwyntiad yn ystod y penwythnos. Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.
Diweddarwyd ddiwethaf 16/05/22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
I gysylltu â Gwasanaeth Rhywedd Cymru ffoniwch y dderbynfa ar 029 2183 6619 neu e-bostiwch: cav.wgs_enquiries@wales.nhs.uk.
Diweddarwyd ddiwethaf 16/05/22
Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar roi diagnosis a thrin cyflyrau sy'n effeithio ar y system anadlol, sy'n cynnwys y trwyn, y gwddf, y laryncs, y bibell wynt, yr ysgyfaint a'r diaffram.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Drwy gydol y pandemig rydym wedi defnyddio technoleg ddigidol i ddarparu triniaeth yn agosach at gartref. Gall hyn olygu y cewch gynnig apwyntiad yn rhithwir trwy ddefnyddio eich ffôn clyfar neu dabled. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o dechnoleg ddigidol ac apiau yn rhan o’ch cynllun triniaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â’ch tîm clinigol.
Diweddarwyd ddiwethaf 20/07/22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Diweddarwyd ddiwethaf: 20/07/22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Diweddarwyd ddiwethaf: 20/07/22
Mae ein gwasanaeth ENT yn gyfrifol am ymchwilio, rhoi diagnosis a thrin anhwylderau a diffygion y clustiau, y trwyn (gan gynnwys sinysau), llwnc, pen a gwddf.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
I gysylltu â’r tîm ENT, ffoniwch 02920 746460 rhwng 9am a 4pm.
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty Sant Joseff i ganiatáu i fwy o gleifion gael eu gweld, felly efallai y cewch eich gwahodd i fynychu eich apwyntiad yn Ysbyty Sant Joseff, Casnewydd. Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.
Diweddarwyd ddiwethaf 16/05/22
Mae ein gwasanaethau Offthalmoleg yn rhoi diagnosis, yn trin ac atal anhwylderau'r llygaid a'r system weledol, gan ddefnyddio sgiliau meddygol a llawfeddygol.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Diweddarwyd ddiwethaf 20/07/22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
I gysylltu â Gwasanaeth y Fron, ffoniwch 02921 825742 rhwng 9am a 5pm.
Diweddarwyd ddiwethaf 16/05/22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty Sant Joseff i ganiatáu i fwy o gleifion gael eu gweld, felly efallai y gwahoddir rhai cleifion i fynychu eu hapwyntiad yn Ysbyty Sant Joseff, Casnewydd.
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Mae ein tîm gastroberfeddol uchaf yn darparu gwasanaethau llawfeddygol ar gyfer cyflyrau'r oesoffagws, y stumog, y dwodenwm, y pancreas a choden y bustl.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Mae ein gwasanaeth gastroberfeddol isaf yn trin clefydau yn y llwybr gastroberfeddol isaf, yn fwyaf cyffredin yn y coluddyn a'r coluddyn bach.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Mae canolfan gymunedol ar gyfer iechyd y pelfis wedi'i sefydlu yn Ysbyty'r Barri i helpu i gynyddu capasiti'r gwasanaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Mae ein gwasanaeth HPB yn darparu gofal i bobl ag anhwylderau'r afu, y pancreas, system y bustl a choden y bustl.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Mae ein gwasanaeth endocrin yn darparu gofal i gleifion ag ystod eang o glefydau sy'n gysylltiedig â hormonau.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Mae'r gwasanaeth Niwrolawdriniaeth yn gofalu am gleifion ag anhwylderau'r ymennydd, llinyn asgwrn y cefn, nerfau, penglog a’r asgwrn cefn.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Mae'r Adran Niwroffisioleg yn rhoi diagnosis ac yn monitro cyflyrau sy'n effeithio ar y systemau nerfol canolog ac ymylol a'r llygaid fel epilepsi, cywasgiad y nerfau, ac anhwylderau gweledol.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Cysylltir â phob claf y diwrnod cyn ei apwyntiad i gwblhau rhestr wirio diogelwch COVID.
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Diweddarwyd ddiwethaf 20.07.22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Diweddarwyd ddiwethaf 20.07.22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Diweddarwyd ddiwethaf 20.07.22
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Diweddarwyd ddiwethaf 20.07.22
Mae’r gwasanaeth Obstetreg a Gynaecoleg yn darparu gwasanaeth trydyddol (gofal arbenigol) i fenywod ag anghenion arbenigol mewn meddygaeth y ffetws/y fam ac mae’n ganolfan ranbarthol ar gyfer oncoleg. Darperir gwasanaeth bydwreigiaeth cymunedol hefyd mewn rhai clinigau iechyd lleol sy’n cynnig gwasanaethau cynllunio teulu.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Mae rhai clinigau cleifion allanol Gynaecoleg (gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd) wedi symud i Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI). Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.
Diweddarwyd ddiwethaf: 20/07/22
Mae’r gwasanaeth Maeth a Deieteg yn darparu ystod o wasanaethau cleifion mewnol, cleifion allanol, cymunedol ac iechyd y cyhoedd i gleifion sydd angen cymorth maethol.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
Mae adnoddau bellach wedi’u hychwanegu at wefannau i gefnogi hunanreolaeth. Gweler isod:
Am adnoddau i gefnogi hunanreolaeth diabetes Math 2, dilynwch y ddolen hon: Beth yw diabetes Math 2? - Cadw Fi’n Iach.
Diweddarwyd ddiwethaf: 20/07/22
Bydd yr holl wasanaethau iechyd meddwl ar agor fel arfer, gan gynnwys gwasanaethau argyfwng 24 awr a'r holl wasanaethau cyswllt i leoliadau gofal iechyd corfforol yn bennaf fel meddygfeydd, yr Uned Achosion Brys a Chartrefi Gofal.
Bydd gwasanaethau arferol fel cleifion allanol a grwpiau seicotherapiwtig ar gael. Bydd cyswllt wyneb yn wyneb rhwng defnyddwyr gwasanaeth a'n timau staff yn parhau i gael ei gynnal pan fydd angen yn unig.
Edrychwch ar wybodaeth am hunangymorth ac arweiniad, gan gynnwys argaeledd y pecyn cymorth hunanatgyfeirio 'CwmwlArian', lle y bo'n briodol.