Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’n prif switsfwrdd drwy ffonio 02920 747747.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

 

Os oes angen gofal brys arnoch, ar gyfer argyfwng sydd ddim yn bygwth bywyd, ffoniwch 111 o’ch ffôn symudol neu linell dir.

I gael mynediad i’n Huned Achosion Brys a’n Huned Mân Anafiadau, rhaid i chi Ffonio yn Gyntaf. Drwy ffonio 111, byddwch yn siarad â swyddog galwadau am eich cyflwr ac, os yw’n briodol, bydd clinigwr CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl ac yn trefnu slot amser neu apwyntiad i chi gyda’r person iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf, os oes angen.

Os ydych chi mewn argyfwng difrifol sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999.

Os hoffech fynegi pryder, neu gyflwyno cwyn neu ganmoliaeth, cysylltwch â’n tîm Pryderon.

Gellir cysylltu â nhw rhwng 9am a 5pm (o ddydd Llun i ddydd Gwener) ar 029 2183 6318 neu 029 2074 4095 neu drwy e-bostio concerns@wales.nhs.uk

Os ydych yn teimlo’n sâl ac yn ansicr o’ch symptomau, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o gyngor gofal iechyd, gwybodaeth ac arweiniad ar wefan GIG 111 Cymru.

Mae’r wefan yn cynnwys A-Y o gyflyrau gofal iechyd, gan gynnwys symptomau a chyngor ar sut i’w rheoli, gwybodaeth leol a manylion am bwy yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir ar gyfer eich anghenion.

Ewch i’r wefan drwy glicio yma.

Os oes angen cyngor gofal iechyd brys arnoch, neu fynediad at ofal brys, ffoniwch 111 am ddim o’ch ffôn symudol neu linell dir.

  • Cyngor am iechyd
  • Gwybodaeth
  • Cyngor brys am iechyd
  • Mynediad at ofal brys
  • Mewn argyfwng difrifol neu sy’n bygwth bywyd

 

111 Pwyswch 2

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, gallwch nawr ffonio 111 a phwyso opsiwn 2.

Mae 111 Pwyswch 2 ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae yno i gefnogi unigolion ledled Caerdydd a'r Fro sy'n profi argyfwng iechyd meddwl, neu sydd ddim yn siŵr pa help sydd ar gael i'w cefnogi gyda'u hiechyd meddwl.

Mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser neu ewch i'r Uned Achosion Brys agosaf.

Dilynwch ni