I fewngofnodi i'ch cyfrif a chofrestru ar ein cyrsiau, neu gofrestru fel myfyriwr, cliciwch yma
Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau addysgiadol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Caiff ein cyrsiau eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a’r Fro.
Rydym yn croesawu unrhyw un i gofrestru fel myfyriwr, gallech fod yn:
Mae cymorth gan gymheiriaid wrth wraidd ein holl gyrsiau, gyda phob un ohonynt yn cael eu cyd-gynhyrchu a’u cyd-ddarparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddwyr cymheiriaid sydd â phrofiad personol o heriau iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae arweinwyr y cwrs yn defnyddio eu profiad i gefnogi eraill.
Rydym yn credu bod gan arbenigedd clinigol a phrofiad personol yr un gwerth ac mae ein cyrsiau yn gyfle i ddysgu gan ein gilydd a gwerthfawrogir cyfraniadau pawb. Ein nod yw pontio’r bwlch rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol ac rydym yn datblygu nifer o bartneriaethau arloesol i wella iechyd a lles pobl ar draws Caerdydd a’r Fro.
E-bost: Cardiffandvale.Recoverycollege@wales.nhs.uk
Ffoniwch: 02921 832619
Dilynwch ni ar Twitter a Facebook.