Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol lunio Asesiadau o Anghenion Fferyllol (PNA) a chyhoeddi eu PNA cyntaf erbyn 1 Hydref 2021.
Effaith fwriadedig PNA yw sicrhau dealltwriaeth o anghenion fferyllol ein poblogaeth leol a defnyddio hyn i wella’r gwaith o gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau fferyllol. Nodi lle y gallai fod angen adeiladau contractwyr ychwanegol (fferyllwyr ar gontract a chontractwyr cyfarpar), lle y mae angen gwasanaethau gweinyddu ychwanegol gan feddygon er mwyn diwallu anghenion a nodwyd sydd heb gael eu diwallu, a hefyd i bennu lle mae contractwyr presennol yn mynd i’r afael ag anghenion fferyllol yn ddigonol.
Mae Datganiad Atodol yn cofnodi newidiadau i’r broses o ddarparu gwasanaethau fferyllol ers cyhoeddi’r Asesiad o Anghenion Fferyllol. Cyhoeddir Datganiadau Atodol pan fydd fferyllfeydd yn cael eu hagor neu eu cau, neu lle y ceir mân newidiadau i’r asesiad o anghenion fferyllol, a fyddai’n berthnasol er mwyn caniatáu ceisiadau. Unwaith y caiff ei gyhoeddi, daw datganiad atodol yn rhan o’r PNA.
Caiff y PNA hwn ei gyhoeddi ar 1 Hydref 2021, a bydd yn weithredol am bum mlynedd ar y mwyaf. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.