Mae'r Bwrdd Clinigol Diagnosteg a Therapiwteg Clinigol yn cynnwys saith cyfarwyddiaeth sy'n darparu ystod eang o weithdrefnau diagnostig a therapiwtig yn lleol, yn genedlaethol ac ar draws y DU. Gyda’i gilydd mae’r gwasanaethau craidd hyn yn sylfaen ac yn gydrannau craidd o bron bob agwedd ar weithgarwch clinigol a gyflawnir yn y BIP.
Cefnogir staff gan y Bwrdd Clinigol, arweinwyr proffesiynol a thimau rheoli cyfarwyddiaethau i roi mesurau ar waith i sicrhau gofal diogel ac urddasol o ansawdd uchel ac i gefnogi gwelliant parhaus yn y gwasanaeth.
Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol — Adam Christian
Cyfarwyddwr Gweithrediadau — Sarah Lloyd
Cyfarwyddwraig Nyrsio a Thimau Amlddisgyblaethol — Helen Luton