Cyfarfodydd Bwrdd
Cynhelir Cyfarfodydd Bwrdd yn rheolaidd ac maent yn agored i’r cyhoedd. Mae hyn yn galluogi’r cyhoedd i weld bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn ffordd agored a thryloyw. Mae hefyd yn dangos atebolrwydd y Bwrdd Iechyd i breswylwyr Caerdydd a Bro Morgannwg.
HYSBYSIAD PWYSIG (DIWEDDARWYD 29.04.21)
Canllawiau i aelodau o’r cyhoedd sy’n arsylwi ar gyfarfodydd Bwrdd a gynhelir yn gyhoeddus
Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), cyflwynodd y llywodraeth fesurau cadw pellter cymdeithasol y dylem oll fod yn eu dilyn i leihau rhyngweithio cymdeithasol, er mwyn lleihau trosglwyddo’r feirws.
Yn unol â’r cyngor hwn, a chyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru, gwnaeth y Bwrdd Iechyd y penderfyniad ym Mawrth 2020 i gynnal ei gyfarfodydd Bwrdd yn rhithwir hyd y ceir hysbysiad pellach. Cytunodd y Bwrdd i asesu’r sefyllfa’n rheolaidd o ystyried ei ymrwymiad clir i gynnal ei fusnes yn agored a thryloyw.
Gofynnir i’r bobl hynny sydd â diddordeb mewn arsylwi ar y Bwrdd cyhoeddus, gofrestru eu diddordeb ymlaen llaw drwy e-bostio Nathan.Saunders2@wales.nhs.uk. Yn dilyn hynny cewch ddolen Microsoft Teams i’r cyfarfod a chanllawiau ar gyfer arsylwi. Caiff cyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd eu trefnu fel bod y bobl sydd â diddordeb yn gallu arsylwi ar weithdrefnau a thrafodaethau’r Bwrdd, ond mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r cyfarfodydd hyn sy’n cael eu cynnal ar gyfer y cyhoedd yn gyfarfodydd cyhoeddus, sy’n golygu na all y bobl hynny sy’n ymuno â’r cyfarfod gymryd rhan.
Er mwyn rheoli cyfarfodydd yn effeithiol, ni cheir darpariaeth i aelodau o’r cyhoedd ofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfod.
Mae aelodau o’r cyhoedd yn bresennol fel arsylwyr, ac os bydd gan unrhyw un gwestiynau, dylai gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig drwy e-bostio Nathan.Saunders2@wales.nhs.uk cyn y cyfarfod.
Cynllun Gwaith y Bwrdd
Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd
Edrychwch ar gofnodion wedi’u cadarnhau y Bwrdd: Cofnodion wedi’u cadarnhau