Yn 2015, creodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy osod tasg i 44 o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a'r newid yn yr hinsawdd.
Mae Cymru yn unigryw, oherwydd ni yw'r unig genedl yn y byd i fod wedi cyflwyno deddf o'r fath. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig, "Mae Cymru'n gwneud heddiw yr hyn y bydd y Byd yn ei wneud yfory."
Mae'r ddeddf yn rhoi saith nod cydgysylltiedig ar waith i sicrhau bod pob sefydliad sydd ynghlwm yn gweithio tuag at nod gyffredin, sef y wlad y mae ar bob un ohonom ei heisiau ac y gallwn fod yn falch ohoni.
Mae'r Ddeddf wedi gosod dyletswydd arnom i ddiffinio a chyflwyno ein hamcanion llesiant ein hunain a fydd yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni'r 7 nod llesiant uchod.
Fel Bwrdd Iechyd, ymatebom i hyn trwy greu Strategaeth Llunio Dyfodol ein Lles, sy'n deillio o ymgynghoriad â chleifion, y cyhoedd, staff iechyd a phartneriaid eraill.