Mae Tîm Cynaliadwyedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn annog cydweithwyr i gofrestru ar gyfer y Calendr Addewidion gydag ymrwymiadau misol i wneud newidiadau bach er lles y blaned yn 2024.
Mae'n nodi un ymddygiad newydd y gallwch ei gyflawni bob mis megis defnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio, osgoi torri'ch lawnt i ganiatáu i blanhigion flodeuo, dod o hyd i lwybrau teithio mwy cynaliadwy a dilyn deiet carbon isel.
Dywedodd Calum Shaw, Rheolwr Gwella Cynaliadwyedd Amgylcheddol: “Nod yr addewidion hyn yw eich helpu chi yn eich bywyd o ddydd i ddydd, i leihau eich effaith ar y blaned a gwireddu rhai buddion carbon, iechyd ac ariannol. Gallech hefyd ddod â'r ymddygiadau hyn i'r gweithle.
“Er bod y calendr yn cynnwys un weithred y mis, gallwch ddewis gwneud y rhain mewn trefn wahanol neu i gyd ar yr un pryd i gael yr effaith fwyaf.”
I gofrestru'n swyddogol ar gyfer yr addewidion, cliciwch yma.
IONAWR: BYDDWCH YN YMWYBYDDOL O’R HINSAWDD
Yn ystod mis Ionawr (neu fis un os byddwch yn dechrau'n hwyrach) dechreuwch eich taith drwy ddysgu mwy am newid hinsawdd. Gall cydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gofrestru a chwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r hinsawdd. Gallwch wneud hyn drwy chwilio am “Cyflawni Sero Net yng Nghymru” yn ESR.
CHWEFROR: DIFFODD
Ym mis Chwefror dewch i'r arfer o ddiffodd monitor ychwanegol yn y swyddfa ac eitemau sy'n segura i arbed ynni. Oeddech chi'n gwybod bod gadael eich monitor a'ch cyfrifiadur yn segura dros nos yn costio dros £330 y flwyddyn!
MAWRTH: DEWCH I AILGYLCHU
Ym mis Ebrill, gwnewch ymdrech ymwybodol i leihau faint o gynhyrchion rydych chi'n eu defnyddio, gan ailddefnyddio unrhyw beth y gallwch chi ac ailgylchu cymaint o eitemau â phosibl gartref ac yn y gwaith.
Data ailgylchu ar gyfer Plastig | Fy Ailgylchu Cymru
Wyddoch chi? - Cymru yw'r 3edd wlad ailgylchu orau yn y BYD!!
EBRILL: CWPANAU Y GELLIR EU HAILDDEFNYDDIO
Ym mis Ebrill, gwnewch ymdrech i leihau effaith eich gwastraff trwy ddod â photel ddŵr neu gwpan coffi y gellir ei ailddefnyddio... gallwch hefyd arbed 25c y coffi mewn mannau gwerthu Aroma. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rydym yn defnyddio dros 770,000 o gwpanau coffi untro bob blwyddyn.
MAI: NO MOW MAY!
Ar gyfer mis Mai yn gyfan gwbl, peidiwch â thorri'ch lawnt! Gall newid eich trefn dorri a chaniatáu i blanhigion flodeuo greu digon o neithdar ar gyfer deg gwaith yn fwy o wenyn a pheillwyr eraill. Rydych chi hefyd yn fwy tebygol o weld mwy o amrywiaeth o flodau yn ymddangos yn eich gardd.
MEHEFIN: TEITHIO CYNALIADWY
Beth am deithio gan ddefnyddio dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy neu garbon isel ar gyfer mis Mehefin? Gallech rannu lifft gyda chydweithiwr, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gymudo drwy gerdded, rhedeg neu feicio.
GORFFENNAF: PRYNU GWASTRAFF ZERO
Gwnewch ymdrech fwy ymwybodol i geisio cyfyngu ar eich gwastraff plastig ym mis Gorffennaf. Gweler y canllaw isod i siopau diwastraff a all eich helpu.
AWST: YMGOLLI MEWN BYD NATUR
Treuliwch awr yr wythnos yn cerdded ym myd natur. Awst yw'r amser perffaith i gynnal cyfarfod cerdded neu ddal i fyny â chydweithwyr yn yr heulwen? Gall treulio amser mewn mannau gwyrdd fod o fudd i chi yn feddyliol ac yn gorfforol.
MEDI: DEIET CARBON ISEL
Ymrwymwch i o leiaf un diwrnod yr wythnos heb fwyta cig, a lle bo modd bwytewch gynnyrch lleol a thymhorol.
Dyma rai ryseitiau blasus y gallech chi roi cynnig arnyn nhw -
Canllaw i ffrwythau a llysiau tymhorol
Deietau Cynaliadwy – Sgiliau Maeth am Oes®
HYDREF: EWCH YN DDI-PAPUR
Ar gyfer mis Hydref cyfan peidiwch ag argraffu unrhyw bapurau neu ddogfennaeth nad oes eu hangen.
TACHWEDD: CYFARFODYDD RHITHWIR
Anelwch at gynnal cymaint o gyfarfodydd â phosibl yn rhithiol, heb gymudo, yn ystod mis Tachwedd. Bydd hyn yn lleihau eich allyriadau trafnidiaeth a'ch effaith ar Ansawdd Aer!
RHAGFYR: E-BYST EFFEITHIOL
Mae un e-bost yn allyrru 10g o CO2. Yn ystod y mis byddwn yn rhoi mwy o ystyriaeth i effaith carbon negeseuon e-bost, gan leihau'r rhai sy'n ddiangen. Amcangyfrifir bod e-byst byd-eang yn cyfrif am 150,000,000 tunnell o CO2e, neu tua 0.3% o ôl troed carbon y byd. Mae hyn yn golygu bod y defnydd cyfartalog o e-byst yn cyfateb i yrru car petrol bach am tua 128 milltir.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.