Strategaeth 2023-2035 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd
Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn helpu i wella bywydau fel bod pobl erbyn 2035 yn iachach a bod gwahaniaethau annheg o ran canlyniadau iechyd yn cael eu lleihau. Bydd y gofal rydym yn ei ddarparu i bobl sydd angen ein gwasanaethau a’r rheiny sy’n darparu’r gwasanaethau yn rhagorol, gyda chanlyniadau a phrofiadau i bawb sy’n cymharu’n dda â’r sefydliadau cymheiriaid sy’n perfformio orau.
--
Mae’r strategaeth hon yn nodi Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu erbyn 2035.
Mae gennym amseroedd heriol o’n blaenau, ond rydym yn hyderus y gallwn, drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn gyda’n gilydd, gefnogi pobl i fyw bywydau iachach a lleihau’r gwahaniaethau annheg o ran cyffredinrwydd salwch a chanlyniadau iechyd a welwn yn ein cymunedau heddiw.
Rydym yn anelu at roi gofal a thriniaeth ragorol i bobl pan fydd ei angen arnynt, yn lle mae ei angen arnynt; gofal sy’n cymharu’n dda â’r gorau yn y byd, ond i wneud hynny, mae angen i ni drawsnewid sut rydym yn darparu gwasanaethau dros y degawd nesaf a thu hwnt.
Hoffem ddiolch i bawb, ein holl gydweithwyr, cleifion, dinasyddion, partneriaid a rhanddeiliaid sydd wedi ein helpu i ddatblygu’r strategaeth hon trwy gymryd rhan yn y digwyddiadau ymgysylltu niferus a gynhaliwyd gennym a chynnig adborth trwy’r arolygon. Rydym wedi gwrando ar yr hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym sy’n bwysig i chi ac yn gobeithio y byddwch chi’n gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y strategaeth newydd hon.
Gallwch ddarllen strategaeth 'Llunio Ein Lles i'r Dyfodol' yma.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.