Ein cenhadaeth yw “Byw'n Dda, Gofalu'n Dda, Gweithio Gyda'n Gilydd”, a'n gweledigaeth yw bod siawns person o fyw bywyd iach yr un fath lle bynnag mae'n byw a phwy bynnag ydyw.
Strategaeth trawsnewid a gwella 10 mlynedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Llunio Dyfodol Ein Lles, yw ein cyfle i gydweithio â'r cyhoedd a gweithlu BIP Caerdydd a'r Fro i wneud ein bwrdd iechyd yn fwy cynaliadwy at y dyfodol. Gyda'n gilydd, gallwn wella tegwch i'n holl gleifion - heddiw ac yfory.
I ddysgu rhagor, Ewch i'n gwefan bwrpasol ar gyfer trawsnewid.