Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025

Ymunwch â Chadeirydd y Bwrdd Iechyd, Charles Janczewski, y Prif Swyddog Gweithredol, Suzanne Rankin a chydweithwyr y Bwrdd Gweithredol wrth iddynt ystyried perfformiad a gweithgaredd dros y 12 mis blaenorol; myfyrio ar yr heriau, y cyflawniadau a'n safle o ran cyrraedd cerrig milltir allweddol ein strategaeth 10 mlynedd, 'Llunio Ein Llesiant yn y Dyfodol', sy'n nodi gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau a wasanaethwn erbyn 2035.


Diolch i bawb a fynychodd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, i'n prif siaradwyr am eu cyflwyniadau cynhwysfawr ac i'r rhai ohonoch a gyflwynodd gwestiynau. Rydym yn gobeithio i chi gael budd o’r sesiwn.

I’ch atgoffa, bydd y cynnwys y cyfeiriwyd ato yn ystod y cyflwyniad heddiw (gan gynnwys copi o'n hadroddiad blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am berfformiad a gwybodaeth ariannol ynghyd â meysydd perthnasol eraill) yn cael ei gyhoeddi yma cyn bo hir.

Os hoffech chi ail-wylio recordiad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gallwch wneud hynny yma. Byddwch chi hefyd yn dod o hyd i'n fideo Adolygiad o'r Flwyddyn isod, sef ffilm sy'n dogfennu cyflawniadau a cherrig milltir allweddol ar draws y Bwrdd Iechyd yn 2024.

 

 

Dilynwch ni