Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro. Steve Riley

Aelodau Annibynnol - Prifysgol

Amdanaf i

Aelodau Annibynnol - Prifysgol

Yr Athro Steve Riley yw Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n Academydd Clinigol ar ôl graddio o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru a chwblhau ei hyfforddiant yng Nghymru fel Arenegwr a Meddyg Cyffredinol. Fel Arenegwr Ymgynghorol Anrhydeddus, mae wedi gweithio o fewn y Gyfarwyddiaeth Arenneg a Thrawsblannu yn BIPCAF ers dros 20 mlynedd ac mae’n dal i gynnal Clinig Clefyd Cronig yr Arennau bob wythnos.

Cyn hynny bu'n Ddeon Addysg Feddygol ac yn Bennaeth yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Helpodd i ddylunio a gweithredu Cwricwlwm Meddygaeth Israddedig arloesol C21 ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn ymwneud â chynllunio a chychwyn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru gan ddefnyddio model Cwricwlwm C21.

Yn fwy diweddar mae rôl PVC ac Aelod Annibynnol wedi canolbwyntio ar ddod â phrifysgolion a'r GIG yn agosach at ei gilydd er mwyn sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Mae trafodaethau pwysig a chyffrous yn parhau i wneud y gorau o'r rhagoriaeth mewn ymchwil, addysg a darparu gofal clinigol yn Ne Cymru a Chymru yn ehangach.

Dilynwch ni