Aelod Annibynnol - Cyfalaf ac Ystadau
Aelod Annibynnol - Cyfalaf ac Ystadau
Mae Dr Rhian Thomas yn Ymgynghorydd Busnes sy'n arbenigo ar Reolaeth Fasnachol a Chontractau, a bu gynt yn gweithio yn y diwydiannau Awyrofod a Morol. Fe wnaeth hyn gynnwys gweithio i Rolls-Royce plc, gan arbenigo ar reoli ceisiadau, trafod, risg a chontractio.
Hefyd, mae Rhian yn Uwch-ddarlithydd Strategaeth a Rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae'n datblygu darpariaeth ôl-raddedig yn yr Ysgol Busnes. A hithau'n siarad Cymraeg, mae Rhian yn darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae gan Rhian PhD mewn Hanes Modern ac mae ganddi raddau eraill mewn Rheoli Busnes ac Ieithoedd Modern a Chanoloesol.
Yn ogystal, mae Rhian yn Gyfarwyddwr Bwrdd (cyfetholedig) Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro, mae'n Aelod o Glas Cymru (Dŵr Cymru/Welsh Water) ac mae'n aelod o Bwyllgor Archwilio Eisteddfod Genedlaethol Cymru.