Neidio i'r prif gynnwy
Kirsty Williams CBE

Cadeirydd

Amdanaf i

Cadeirydd

Yn dilyn ei phenodiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd ym mis Gorffennaf, dechreuodd Kirsty Williams CBE ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Hydref.

Mae Kirsty yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin ac mae bellach yn byw yn Aberhonddu. Cafodd ei hethol i'r Senedd ym 1999, gan arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2008 i 2016 ac yn ddiweddarach gwasanaethodd fel Gweinidog Addysg o 2016 i 2021.

I gydnabod ei gwasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol, dyfarnwyd CBE i Kirsty yn 2013. Cafodd ei gwneud yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Brenhinol y Nyrsys yn 2016 hefyd am ei chefnogaeth i'r Ddeddf Lefel Staffio Nyrsys.

Yn 2022 ymddeolodd Kirsty fel Aelod o'r Senedd a chafodd ei phenodi'n Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, swydd a gyflawnodd tan ei phenodiad diweddar. Mae Kirsty hefyd yn gwasanaethu fel Comisiynydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae ganddi rolau arwain mewn pwyllgorau addysg a thrafnidiaeth.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni