Is-gadeirydd
Is-gadeirydd
Mae Ceri yn wreiddiol o Gastell-nedd a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Castell-nedd, UWIST a Phrifysgol Abertawe. Hyd at fis Gorffennaf 2020, roedd yn Bennaeth y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Economeg Iechyd yng Nghanolfan Abertawe ar gyfer Economeg Iechyd.
Roedd yn aelod bwrdd annibynnol o fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ers ei gychwyn, ac yn aelod o Adolygiad Evans a wnaeth argymell ei greu. Roedd yn aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn flaenorol.
Mae wedi bod yn Gadeirydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ers Awst 2019, ar ôl bod yn un o aelodau sylfaenol y Grŵp. Roedd yn gyd-arweinydd yr Adolygiad o’r arfarniad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru yn 2014. Yn ogystal, roedd yn aelod o Gomisiwn Bevan a chyd-ysgrifennodd y cyhoeddiad a gychwynnodd y syniad o Ofal Iechyd Darbodus yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae’n Athro Emeritws Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Yn ystod ei yrfa, mae wedi gwneud gwaith a gomisiynwyd ar werthuso rhaglenni ac ymyriadau ar gyfer ystod o sefydliadau, yn cynnwys llywodraethau a NICE, ac mae wedi ysgrifennu dros 220 o gyhoeddiadau ac wedi sicrhau incwm grant sydd dros £28 miliwn.