Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant
Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant
Cafodd Rachel ei phenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant ar gyfer BIP Caerdydd a’r Fro ym Mawrth 2021
Mae Rachel wedi cael gyrfa amrywiol gan ddechrau mewn rôl glinigol ac wedyn ennill profiad sylweddol mewn rolau arwain uwch ac yn y maes addysg. Mae ganddi dros 30 blynedd o brofiad yn BIP Caerdydd a’r Fro
Penodwyd Rachel yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sefydliadol yn 2017, lle arweiniodd rhai mentrau diwylliannol allweddol fel Amplify 2025 a’r Academi Prentisiaeth, yn ogystal â’i phrofiad strategol yn cynllunio ac yn darparu cynllun y gweithlu a datblygu sefydliadol ar gyfer Ysbyty Calon y Ddraig.
Mae Rachel yn frwdfrydig dros arwain yr agenda pobl a diwylliant i gefnogi unigolion i wneud gwahaniaeth mewn gofal iechyd