Cafodd Adam Roberts ei gyhoeddi’n Gyfarwyddwr Gweithredol newydd Strategaeth, Cynllunio a Phartneriaethau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar 22 Ionawr 2026
Bydd yn dechrau yn y swydd yn ffurfiol ar 23 Ebrill 2026.
Mae gan Adam dros 20 mlynedd o brofiad yn cwmpasu gwelliant lleol, strategaeth systemau ac ymchwil genedlaethol annibynnol ddylanwadol.
Mae'n ymuno â'r Bwrdd Iechyd o GIG Lloegr lle bu'n cyflawni nifer o rolau arwain uwch, gan gynnwys Cyfarwyddwr Mewnwelediad Gweithredol mewn Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.
Cynghorodd a chefnogodd ddiwygio cenedlaethol ar draws gofal brys a gofal mewn argyfwng integredig, gan ddarparu briffiau rheolaidd i weithredwyr y llywodraeth a GIG Lloegr, gan gynnwys drwy gydol yr ymateb i COVID-19 a'r cyfnod adfer dilynol.
Mae Adam yn cael ei gydnabod am ddatblygu'r model a ddefnyddir i gryfhau'r sail dystiolaeth ar gyfer rhoi mwy o ffocws ar ofal y tu allan i'r ysbyty a'r angen i symud tuag at wasanaethau cymunedol.
Gydag ymrwymiad cryf i wella ansawdd, roedd yn aelod o Grŵp Cynghori annibynnol y Gweinidog ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG a gyhoeddodd argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2025.
Yn Gymro balch, mae Adam yn angerddol dros wella ansawdd, mynediad a chanlyniadau i gleifion sy'n seiliedig ar ddadansoddiad trylwyr o bwysau uniongyrchol a thueddiadau tymor hwy.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.