Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliad Clinigol

Beth ydyw?

Mae archwiliad clinigol yn ffordd o ddarganfod a yw gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn unol â safonau ac mae'n rhoi gwybod i ddarparwyr gofal a chleifion ymhle mae eu gwasanaeth yn gwneud yn dda ac ymhle y gallai wella. 

Dyma'r camau allweddol mewn archwiliad clinigol:

1. Nodi pwnc y mae'n bwysig ei archwilio.

2. Sefydlu'r safonau awdurdodol y bydd angen archwilio yn eu herbyn.

3. Datblygu meini prawf archwilio a fydd yn mesur perfformiad yn erbyn y safon gytunedig. 

4. Casglu a dadansoddi data ac adrodd  y canlyniadau.

5. Myfyrio ar ganlyniadau a chytuno ar gynllun gwella.

6. Gweithredu'r cynllun gwella.

7. Casglu'r data eto i fesur gwelliant.

Pa fathau o archwiliad clinigol rydym ni'n eu cynnal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro?

Rydym yn cynnal 2 fath o archwiliad:

  • Archwiliad Clinigol Lleol - Mae'r rhain yn archwiliadau clinigol a gynhelir o fewn gwasanaeth penodol i ymchwilio i broblem leol neu i asesu ymarfer clinigol yn erbyn safon benodol. Rhaid i dimau clinigol gofrestru'u harchwiliad gyda'n tîm archwilio clinigol. Ar ôl ei gofrestru, bydd y tîm archwilio clinigol yn neilltuo cyfeirnod cronfa ddata i'r prosiect ac yn monitro cynnydd y prosiect. Caiff holl ganlyniadau prosiectau ac unrhyw argymhellion am newid i ymarfer eu hanfon i'r adran i sicrhau bod cofnodion cynhwysfawr yn cael eu cadw ac i'w cynnwys yn yr adroddiad blynyddol nesaf.
  • Archwiliad Clinigol Cenedlaethol - Mae Archwiliadau Clinigol Cenedlaethol yn archwiliadau gofynnol a orchmynnir gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhaid i bob bwrdd iechyd gymryd rhan ynddynt. Maent yn ymdrin ag amrywiaeth eang o wahanol feysydd clinigol, fel Asthma, Canser y Fron, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD), Canser y Coluddyn a Gofal Mamolaeth, i enwi ond rhai. 

Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi'r Cynllun Archwilio Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau (NCAORP) yn flynyddol. Mae'r cynllun hwn yn un o gonglfeini sylfaen yr ymdrech i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd yng Nghymru. Mae'n amlinellu'n fanwl sut bydd canfyddiadau prosiectau archwilio clinigol cenedlaethol ac adolygiadau o ganlyniadau'n cael eu defnyddio i fesur ansawdd ac effeithiolrwydd y gofal iechyd a ddarperir i gleifion ac i asesu gwelliannau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Hefyd, mae'r cynllun yn rhoi'r rhestr lawn o brosiectau archwilio cenedlaethol y mae'n rhaid i bob sefydliad gofal iechyd gymryd rhan yn llawn ynddynt, os ydynt yn darparu'r gwasanaethau hynny. 

Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cydymffurfio â gofynion Llywodraeth Cymru trwy gymryd rhan yn yr holl archwiliadau clinigol cenedlaethol gorfodol. Caiff adroddiadau archwilio blynyddol a gyhoeddir eu hadolygu gan y rheolwr diogelwch cleifion a sicrhau ansawdd ar y cyd â'r clinigydd arweiniol, ac mae canlyniadau'n gyrru gwaith gwella mewn meysydd â ffocws. Rydym yn adrodd ar ein holl ganlyniadau o Archwiliadau Cenedlaethol trwy ein Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad yn flynyddol i roi sicrwydd ein bod yn cydymffurfio â'r safonau ansawdd a amlinellir gan bob un ohonynt. 

 

 

 

 

Dilynwch ni