Neidio i'r prif gynnwy

Safonau Iechyd a Gofal

Group of surgeons in an operating theatre 

Mae'r Safonau Iechyd a Gofal yn amlinellu fframwaith cyffredin Llywodraeth Cymru o safonau i gefnogi'r GIG a sefydliadau partner wrth ddarparu gwasanaethau effeithiol, amserol, o ansawdd, ym mhob lleoliad gofal iechyd.  Mae'r safonau'n amlinellu'r hyn y gall pobl Cymru ei ddisgwyl pan fyddant yn troi at wasanaethau iechyd a pha ran y gall pobl ei chwarae eu hunain i hybu'u hiechyd a'u lles. Maent yn amlinellu'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau a sefydliadau, p'un ai a yw'r rhain yn darparu neu'n comisiynu gwasanaethau i'w dinasyddion lleol.

Mae safonau'n rhoi fframwaith cyson sy'n galluogi gwasanaethau iechyd i ystyried eu hamrediad o wasanaethau mewn ffordd integredig er mwyn sicrhau bod popeth a wna'r gwasanaethau o'r ansawdd uchaf a'u bod yn gwneud y peth cywir, yn y ffordd gywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir, gyda'r staff cywir. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal adolygiad blynyddol o bob un o'r safonau ac mae'n asesu perfformiad yn erbyn pob un ohonynt. 

(dogfennau Saesneg yn unig)

 

Dilynwch ni