Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion

Diben yr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion (NCEPOD) yw cynorthwyo â chynnal a gwella safonau gofal i oedolion a phlant, er budd y cyhoedd, trwy adolygu'r rheolaeth ar gleifion, trwy gynnal arolygon ac ymchwil gyfrinachol, trwy gynnal a gwella ansawdd gofal cleifion a thrwy gyhoeddi a sicrhau bod canlyniadau gweithgareddau o'r fath ar gael yn gyffredinol.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cymryd rhan weithgar mewn astudiaethau NCEPOD. Yn fwyaf diweddar, mae'r rhain wedi cynnwys Delay in Transit, sef astudiaeth yn bwrw golwg ar ansawdd y gofal a ddarparwyd i gleifion dros 16 oed sydd wedi cael diagnosis o rwystr acíwt yn y coluddyn, a Pulmonary Embolism: Know the Score, sef astudiaeth yn amlygu ansawdd gofal cleifion 16 oed a hŷn a gafodd Embolws Ysgyfeiniol, naill ai a ddaeth i'r ysbyty gydag Embolws Ysgyfeiniol neu a ddatblygodd un pan oeddent yn glaf yn yr ysbyty gyda chyflwr arall.

O fewn adroddiadau'r astudiaethau, nid oes modd gweld y canlyniadau ar lefel sefydliad unigol, felly rydym yn gweithio gyda chlinigwyr i feincnodi ein perfformiad yn erbyn argymhellion yr astudiaeth. Trwy ein Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad, rydym yn adrodd ein canlyniadau wedi'u meincnodi ar gyfer astudiaethau unigol y gwnaethom gymryd rhan ynddynt.

Dilynwch ni