Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Iechyd

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru.  Eu rôl yw rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau'r GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau i amlygu meysydd y mae angen eu gwella. Eu diben yw gwirio bod pobl yng Nghymru'n cael gofal iechyd o ansawdd da. 

Gwnânt hyn trwy ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau:

  1. Mae AGIC yn arolygu gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru i wirio bod pobl yn derbyn gofal da. Caiff rhai arolygiadau eu cyhoeddi fel bod gwasanaethau iechyd yn gwybod pryd bydd AGIC yn ymweld. Ni chaiff arolygiadau eraill, gan gynnwys ymweliadau â wardiau, eu cyhoeddi, fel bod gwasanaethau'n cael eu harolygu heb i unrhyw un gael gwybod ymlaen llaw y bydd AGIC yn ymweld. Fel hyn, gall AGIC gael darlun cliriach o'r modd y mae gwasanaethau'n gweithredu.
  2. Yn dilyn arolygiad, mae'r gwasanaeth yn cael adborth llafar ar y diwrnod a byddant yn trafod yr hyn y gwelont fod y gwasanaeth yn ei wneud yn dda a'r hyn y gwelont y gallai'r gwasanaeth ei wella. Bydd adroddiad ysgrifenedig yn dilyn hyn ac, os bydd angen i'r gwasanaeth wneud gwelliannau, rhaid i'r gwasanaeth ddatblygu cynllun yn dangos sut byddant yn gwneud hyn, sef cynllun gwella. Fodd bynnag, os byddant o'r farn bod angen sylw ar rywbeth ar unwaith, byddant yn cyhoeddi llythyr sicrwydd uniongyrchol - mae hyn yn golygu bod rhaid i'r gwasanaeth unioni'r mater cyn gynted â phosibl ac o fewn amserlen a roddir gan AGIC.

Adroddiadau

Mae holl adroddiadau AGIC yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan, lle y gallwch chwilio amdanynt yn ôl enw neu fwrdd iechyd.

Sut rydym ni'n dysgu ac yn gwella o arolygu

Mae dysgu o adborth AGIC yn bwysig iawn ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau, fel bwrdd iechyd, bod y dysgu nid yn unig yn canolbwyntio ar un maes ond ar y sefydliad cyfan. I helpu gyda rhannu dysgu a lledaenu arfer da, rydym wedi datblygu hunanasesiad y gofynnir i brif nyrsys ward ei gwblhau. Yn dilyn arolygiad mewn un rhan o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol, rydym yn creu rhestr wirio syml o'r gwelliannau y mae eu hangen a'r meysydd arfer da a amlygwyd gan AGIC yn ystod yr arolygiad. Anfonir y rhestr wirio at holl brif nyrsys ward fel y gallant hunanasesu'u ward, i weld a yw'r safonau gofynnol ar waith. Hefyd, mae'n helpu i rannu'r pethau y mae timau'n eu gwneud yn dda. Mae enghraifft o'r rhestr wirio i'w gweld yma.

Mae AGIC yn cyflawni gweithgareddau eraill hefyd:

  • Adolygiadau thematig - Ar hyn o bryd, mae AGIC yn cynnal Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth ac mae'r bwrdd iechyd yn cymryd rhan yn hwn.
  • Ymchwiliadau - Mae AGIC yn cynnal adolygiadau o wasanaethau neu sefydliadau gofal iechyd mewn ymateb i bryderon sy'n codi o ddigwyddiad neu ddigwyddiadau penodol, yn dibynnu ar ddifrifoldeb a/neu pa mor aml y mae'n digwydd.
  • Adolygiadau o Laddiadau - Os bydd person sy'n hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn lladd person arall, gall Llywodraeth Cymru gomisiynu AGIC i gynnal adolygiad allanol annibynnol.
  • Adolygiadau o farwolaethau yn y ddalfa - Mae AGIC yn cyfrannu at ymchwiliadau o farwolaethau yn y ddalfa trwy gynnal adolygiad clinigol.
  • Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid - Mae AGIC yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i fonitro'r ffordd y mae'r GIG ac ysbytai annibynnol cofrestredig yn gweithredu'r Trefniadau Diogelu.
Dilynwch ni