Neidio i'r prif gynnwy

Marwoldeb ac Afiachedd

Yn dilyn yr ymchwiliad i weithgareddau'r meddyg teulu a'r llofruddiwr lluosog Harold Shipman a'r erchyllterau yn Ymddiriedolaeth GIG Canolbarth Swydd Stafford a amlinellwyd yn yr Adroddiad gan Robert Francis CF, mae'r GIG wedi canolbwyntio fwy nag erioed ar ddysgu o niwed. Un o'r ffyrdd rydym ni'n gwneud hyn yw trwy adolygiadau marwoldeb fel ein bod yn dysgu o farwolaethau. O fewn GIG Cymru, bydd adolygiad cam 1 yn cael ei gynnal o bob claf sy'n marw yn yr ysbyty. I rai cleifion, mae hyn yn arwain at adolygiad cam 2 manylach, lle y caiff rhai canfyddiadau eu trafod mewn cyfarfodydd marwoldeb ac afiachedd. Mae hyn yn ysgogi dysgu a gweithredu.

Anableddau dysgu a dementia - Mae ffocws mawr ar yr anghydraddoldebau y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu. Ar gyfartaledd, mae'r bobl hyn yn marw 15 i 20 mlynedd yn gynt na'r boblogaeth gyffredinol. Nododd Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Adolygu Marwoldeb Pobl ag Anableddau Dysgu rai themâu allweddol. Rydym yn talu sylw arbennig i farwolaethau pobl ag anableddau dysgu, sy'n cael adolygiad cam dau manylach yn awtomatig.


Mae'r broses arfaethedig ar gyfer adolygiadau marwoldeb cam 2 i'w gweld isod

pastedGraphic.png

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, rydym wedi datblygu ein Hadnodd Archwilio Marwoldeb Electronig ein hunain i gofnodi adolygiadau cam un a manylion tystysgrifau marwolaeth. Mae hyn yn cynhyrchu graffiau o'r data marwoldeb ac mae'n ein helpu i fonitro tueddiadau a themâu. 

Ar gipolwg, gallwn weld p'un ai a oes mwy na'r nifer disgwyliedig o farwolaethau (tabl 1 isod).

pastedGraphic_1.png

Graff 1 – Marwoldeb bras mewn ysbyty 

pastedGraphic_2.png

Sefydlwyd grŵp adolygu marwoldeb ym mis Mawrth 2020 yn y Bwrdd Iechyd Prifysgol i oruchwylio'r gwaith sy'n gysylltiedig â marwoldeb. Mae'r Cylch Gorchwyl i'w weld yma 

Gwasanaeth Archwilio Meddygol 

Yng Nghymru a Lloegr, mae system o graffu arbenigol, annibynnol ar ofal a thriniaeth hyd at farwolaethau cleifion yn cael ei gweithredu.  Yr enw ar hon yw'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol.

Diben Archwilydd Meddygol yw:

  • Gwella trefniadau diogelu i'r cyhoedd 
  • Sicrhau bod y marwolaethau cywir yn cael eu cyfeirio at grwner 
  • Gwella ansawdd ardystio marwolaeth
  • Cynnig cyfle i berthnasau ofyn cwestiynau 
  • Bwydo gwybodaeth i'r systemau sicrhau ansawdd 
  • Darparu cyngor meddygol cyffredinol i Grwneriaid 
  • Casglu gwybodaeth ystadegol ynghyd a'i rhannu 

Bydd un Gwasanaeth Archwilio Meddygol i Gymru gyfan yn gweithio ar ran byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Trwy weithredu fesul cam, bydd yn craffu ar oddeutu 30,000 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru (er COVID 19).

Mae Archwilwyr Meddygol yn feddygon profiadol a hyfforddedig a fydd yn sefydlu achos cywir marwolaeth ac yn amlygu unrhyw bryderon ynghylch y farwolaeth ei hun, y gellir ymchwilio iddynt wedyn os bydd angen.

Bydd Swyddogion Archwilio Meddygol yn cefnogi'r Archwilwyr Meddygol. Ymhlith eu dyletswyddau nhw fydd sgrinio nodiadau meddygol i ddechrau, cadw cofnodion cywir a bod yn bwynt cyswllt lleol ac yn ffynhonell cyngor i berthnasau'r ymadawedig, i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, i'r Crwner ac i'r gwasanaeth cofrestru. 

Bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn adrodd yn ôl i systemau llywodraethu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd trwy system newydd Datix. Bydd unrhyw faterion y mae'r Archwilydd Meddygol yn eu hamlygu'n cael eu cyfeirio at gam 2 y broses adolygu marwoldeb i'r sefydliad hwnnw eu hystyried. 

Dyma'r ddolen i'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol i gael rhagor o wybodaeth.

Dilynwch ni