Sut bydd yn effeithio ar fy ngofal a'm cymorth?
I'ch cynorthwyo chi i gyflawni llesiant, byddwch chi'n gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. Bydd gan ofalwyr yr un hawl i gael asesiad cymorth â'r bobl maen nhw'n gofalu amdanynt, a bydd gan fwy o bobl hawl i Daliadau Uniongyrchol. Bydd proses asesu newydd ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yr asesiad yn symlach a gall un person ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau. Bydd mwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, fel bod yr help cywir ar gael pan fydd arnoch ei angen. Hefyd, bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod yn cael eu cyflwyno. Daw'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2016. I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. |
|