Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd llesiant ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal trwy gyfrannu at gyflawni'r saith nod llesiant cenedlaethol. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i BGC weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Gweithio mewn Partneriaeth â BGCau

Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn aelod statudol o'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Diben BGCau yw sicrhau bod aelod gyrff yn gweithio ar y cyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu poblogaethau lleol, a'u bod yn cyfrannu at gyflawni'r saith nod llesiant fel y'u hamlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae partneriaid wedi ymrwymo i weithio ar draws ffiniau sefydliadol i gytuno ar gamau i gyflawni gwell deilliannau a gwella llesiant i ddinasyddion lleol, gan weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy ac mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni, heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i fodloni'u hanghenion eu hunain.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid yn y BGCau i ymgynghori ar Gynlluniau Llesiant drafft sy'n amlinellu ymrwymiadau'r BGC i wella llesiant lleol heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae'r BGCau yn cydnabod bod angen gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau bod amcanion a chamau gweithredu yn cyd-fynd, ynghyd â threfniadau atebolrwydd clir ar gyfer cymryd y prif gyfrifoldeb am faterion. Ar lawer cyfrif, mae'r Cynllun Ardal yn darparu elfen ofal a chymorth y Cynlluniau Llesiant. Mae ein Cadeirydd a'n Tîm Gweithredol yn ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y BGCau, sy'n rhoi cyfleoedd gwirioneddol i feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl leol, edrych i atal problemau a mabwysiadu ymagwedd fwy cysylltiedig at ein gwaith. Bydd y ffocws yn 2018/19 ar gyflwyno'r Cynlluniau Llesiant a luniwyd yn derfynol ym mis Mai 2018.

 
Dilynwch ni