Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Gwella a Gweithredu

Logo GGB


Ein cenhadaeth yw gweithio gyda thimau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i drawsnewid syniadau da yn atebion ymarferol, cynaliadwy, sy'n anelu at wella a darparu gwasanaethau o ansawdd i'n cleifion a'n dinasyddion.

Nodau cyffredinol Gwella Gwasanaethau'n Barhaus (GGB) yw:

  • hwyluso newid ar gyfer gwella, gan weithio ochr yn ochr â'r timau rheng flaen 
  • trosi gwybodaeth am berfformiad er mwyn helpu i gyflwyno gwasanaethau yn effeithlon
  • adeiladu effeithiolrwydd y sefydliad trwy ddarparu arweiniad, cymorth a hyfforddiant ym maes sgiliau gwella ansawdd 
  • bod yn asiantaeth wella ar gyfer ein sefydliad ein hunain, arloesi'n effeithiol, dysgu'n barhaus a throsi syniadau gwych o sectorau eraill 
  • cyflawni "mwy o lai" gan ddefnyddio adnoddau mor effeithiol â phosibl.

‘Ar ein pen ein hunain, gallwn wneud cyn lleied; gyda'n gilydd, gallwn wneud cymaint’


Beth rydym ni'n ei gynnig

Gwyddom fod gan staff yr atebion. Nod GGB yw rhoi'r lle, yr amser, yr adnoddau a'r cymorth i gyflawni'r newid a ddymunir.

Mae trafodaeth â staff o bob rhan o'r sefydliad ynghyd â nodau cyffredinol cynllun strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn llywio ac yn datblygu ein gwaith. Rydym yn dilyn tair egwyddor sylfaenol:

  1. Mae ein ffrydiau gwaith yn canolbwyntio ar leihau niwed, amrywiaeth a gwastraff.
  2. Bod yn ffrind beirniadol.
  3. Cynnig hyblygrwydd a chyfrifoldeb.

 

Dilynwch ni