Neidio i'r prif gynnwy

Y Senedd Glinigol

Mae'r Senedd Glinigol yn fforwm trimisol o glinigwyr amlbroffesiwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Meddygol, Dr Graham Shortland.  Mae'r fforwm yn cynnig llwyfan ar gyfer rhannu arfer da ac arloesiadau yn unol â strategaeth y Bwrdd Iechyd Prifysgol, Llunio Dyfodol Ein Lles.

Trwy roi cyfle i rannu dysgu, arloesiadau ac arfer da, mae'r Senedd yn hwyluso rhannu gwybodaeth ar draws y bwrdd iechyd.  Ei nod yw hybu integreiddio trwy gefnogi cyfathrebu rhwng ymarferwyr gofal sylfaenol a gofal eilaidd.  Gall clinigwyr unigol elwa o'r Senedd wrth iddi eu helpu i ddeall y pethau sy'n galluogi ac yn rhwystro gweithredu newid yn eu maes clinigol.

Bydd cofnodion a sleidiau cyflwyniadau unigol ar gael isod yn fuan ar ôl pob Senedd.

Mae croeso i awgrymiadau am gyflwyniadau i'r Senedd Glinigol – cysylltwch â Dr Rachel Rayment ar Rachel.Rayment@wales.nhs.uk.

Dyddiadau Cyfarfodydd 2020

*Y senedd nesaf*

Rydym yn gwneud newidiadau i'r senedd - darllenwch amdanynt yma.

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â:


Dr Rachel Rayment
Arweinydd Clinigol, Llunio Dyfodol Ein Lles 
Rachel.rayment@wales.nhs.uk

Andrea Bird
Cynorthwyydd Gweithredol Cynllunio
andrea.bird@wales.nhs.uk

Dilynwch ni