Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl

Mae Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl yn cynnwys lleoliadau yn y gymuned a lleoliadau cleifion mewnol ac mae wedi'i gynllunio gyda defnyddwyr y gwasanaeth mewn cof, gyda ffocws ar adfer ac adsefydlu.

Nod y Bwrdd Clinigol yw cydweithio, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gomisiynu, dylunio, creu, darparu a gwerthuso ein gwasanaethau.

Mae gan ein staff a defnyddwyr ein gwasanaethau weledigaeth hirdymor ar gyfer cynyddu gofal yn y gymuned a chynyddu modelau rhannu'r gofal. Mae gennym dimau cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol a gwasanaethau cleifion mewnol, ac rydym yn rheoli gwasanaethau arbenigol fel Gofal Dibyniaeth, Gofal Diogelwch Isel a Gofal Dementia Cynnar.
 

Tîm Rheoli'r Bwrdd Clinigol 

Cyfarwyddwr y Bwrdd Clinigol - Neil Jones

Cyfarwyddwr Gweithrediadau - Dan Crossland

Cyfarwyddwr Nyrsio - Mark Doherty

 

 

Dilynwch ni