Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Clinigol CD&T

Mae'r Bwrdd Clinigol Diagnosteg a Therapiwteg Clinigol yn cynnwys saith cyfarwyddiaeth sy'n darparu ystod eang o weithdrefnau diagnostig a therapiwtig yn lleol, yn genedlaethol ac ar draws y DU. Gyda’i gilydd mae’r gwasanaethau craidd hyn yn sylfaen ac yn gydrannau craidd o bron bob agwedd ar weithgarwch clinigol a gyflawnir yn y BIP.

  • Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau
  • Radioleg a Ffiseg Feddygol / Peirianneg Glinigol
  • Therapiwteg a Thocsicoleg
  • Therapïau
  • Darluniad Meddygol
  • Cleifion Allanol / Gweinyddu Cleifion
  • Meddygaeth Labordy
    • Haematoleg
    • Patholeg Cellog
    • Biocemeg
    • Patholeg TG
    • Profion Pwynt Gofal

Cefnogir staff gan y Bwrdd Clinigol, arweinwyr proffesiynol a thimau rheoli cyfarwyddiaethau i roi mesurau ar waith i sicrhau gofal diogel ac urddasol o ansawdd uchel ac i gefnogi gwelliant parhaus yn y gwasanaeth.
 

Uwch Dîm Rheoli’r Bwrdd Clinigol
 

Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol — Adam Christian

Cyfarwyddwr Gweithrediadau  — Sarah Lloyd

Cyfarwyddwraig Nyrsio a Thimau Amlddisgyblaethol — Helen Luton

 

 

Dilynwch ni