Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestr Buddiannau

Mae'n ofynnol i Aelodau Bwrdd ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau busnes sydd ganddynt a allai effeithio, neu roi'r argraff eu bod yn effeithio, ar sut maent yn cyflawni eu rôl fel Aelod Bwrdd. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw fuddiannau a allai ddylanwadu ar eu crebwyll wrth ymdrin â busnes y Bwrdd. Hefyd, rhaid i Aelodau Bwrdd ddatgan unrhyw fuddiannau sydd gan aelodau teulu neu bobl neu gyrff y mae ganddynt gysylltiad â nhw.

Mae'r Gofrestr Buddiannau yn cynnwys manylion pob swydd Cyfarwyddwr a buddiannau perthnasol a materol eraill sydd wedi'u datgan gan Aelodau'r Bwrdd. Ysgrifennydd y Bwrdd sy'n cadw'r Gofrestr, a chaiff ei diweddaru yn ystod y flwyddyn, fel y bo'n briodol, i gofnodi unrhyw fuddiannau newydd, neu newidiadau i'r buddiannau y mae Aelodau'r Bwrdd yn eu datgan. Caiff y Gofrestr ei hadolygu'n flynyddol.  

Bydd y Gofrestr ar gael i'w gweld yn holl gyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd. 

Dilynwch ni