Neidio i'r prif gynnwy
Susan Susan

Aelod Annibynnol – Awdurdodau Lleol

Amdanaf i

Aelod Annibynnol – Awdurdodau Lleol

Mae Susan yn Gynghorydd ar Gyngor Bro Morgannwg ac yn ogystal â rolau pwyllgor amrywiol, hi yw Hyrwyddwr Trechu Tlodi'r Cyngor.

Bu Susan gynt yn Arweinydd Rhwydwaith ar gyfer Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru, gan arwain ar bolisi a materion cyhoeddus a bu’n gyd-Gadeirydd ar gynghrair gwrthdlodi Cymru. Mae hi wedi datblygu nifer o fentrau yn y gymuned sy’n anelu at liniaru effaith tlodi ac anghydraddoldeb, gan gynnwys Banc Bwyd y Fro, ac ar hyn o bryd hi yw Cadeirydd Ymddiriedolwyr CIO Coastlands.

Mae gan Susan gefndir mewn gofal cymdeithasol, ar ôl treulio dros 20 mlynedd yn datblygu, rheoli a chomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol a chomisiynu ar y cyd ag iechyd. Mae hi'n angerddol am wella'r rhyngwyneb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau bod profiad bywyd cleifion a gofalwyr yn gyrru gwasanaethau.

Mae Susan yn briod gyda dau o blant sy'n oedolion, yn byw yn y Barri ac yn gofalu am nifer o berthnasau oedrannus.

Dilynwch ni