Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Mae'r pwyllgor hwn bellach wedi'i ddirwyn i ben

Pwrpas Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yw rhoi cyngor i'r Bwrdd ar bob mater yn gysylltiedig â staff a staffio'r Bwrdd Iechyd Prifysgol. Hefyd, bydd yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ynghylch pob mater yn ymwneud ag adnoddau dynol a datblygu sefydliadol.  

Caiff rôl lawn y Pwyllgor hwn ei hamlinellu yn y Cylch Gorchwyl.
 
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn yr Ystafell Gyfarfod Gorfforaethol, Ysbyty'r Eglwys Newydd, ar y dyddiadau isod.  

I fynd at bapurau'r Pwyllgor, dewiswch ddyddiad y cyfarfod perthnasol. Os hoffech ddod i'r cyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kathy Bennet ar 029 2074 6883.

Cyfarfodydd 2012/13 
10 Ionawr 
10 Ebrill 
17 Gorffennaf
30 Hydref 
29 Ionawr 2013

Mae'r papurau o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ar gael o hyd.

Grŵp Llywio'r Strategaeth Cydraddoldeb 

Mae Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol wedi sefydlu Grŵp Llywio'r Strategaeth Cydraddoldeb. Pwrpas y Grŵp hwn yw gwreiddio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol ar draws y sefydliad a'i amrywiaeth o weithgareddau: cael at / cyflwyno gwasanaethau, arferion cyflogaeth, ymwneud gan gleifion a'r cyhoedd, comisiynu gwasanaethau a threfniadau partneriaeth.  

Mae Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn cael adroddiad cryno o bob cyfarfod Grŵp Llywio'r Strategaeth Cydraddoldeb.

Dilynwch ni