Neidio i'r prif gynnwy

Ein Bwrdd

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol, ac Aelodau Bwrdd Annibynnol, y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'u penodi i Fwrdd y Bwrdd Iechyd Prifysgol trwy broses penodiadau cyhoeddus agored a chystadleuol. Gyda'i gilydd, mae'r Bwrdd, y Tîm Gweithredol a'r strwythur rheoli ardal yn canolbwyntio ar anghenion iechyd poblogaeth Caerdydd a'r Fro. 

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf bob deufis, mewn sesiwn gyhoeddus. Mae strwythur o Bwyllgorau a Grwpiau Cynghori yn cefnogi'i broses gwneud penderfyniadau. Mae dyddiadau a lleoliadau'r cyfarfodydd cyhoeddus, ac agendâu, papurau a chofnodion Bwrdd cysylltiedig, i'w gweld ar dudalen Cyfarfodydd y Bwrdd. Hefyd, maent ar gael ar dudalennau Pwyllgorau unigol ar dudalen y Pwyllgorau a Grwpiau Cynghori.

Mae'r adran hon o'n gwefan yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am Aelodau ein Bwrdd a'u rôl wrth ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth, sef bod yn ganolfan ryngwladol o ragoriaeth glinigol a rhagoriaeth ym maes arweinyddiaeth.

Dilynwch ni