Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Dau: Faint rydym ni'n ei wario a sut rydym ni'n ei wario

Bydd gwybodaeth a ddarperir o fewn y Dosbarth hwn yn cydymffurfio â gofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg.

Datganiad blynyddol o gyfrifon, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant, ac adroddiadau archwiliadau ariannol 

Cyfrifon Blynyddol 2015/2016
Cyfrifon Blynyddol 2014/2015
Cyfrifon Blynyddol 2013/2014
Cyfrifon Blynyddol 2012/2013
Cyfrifon Blynyddol 2011/2012
Cyfrifon Blynyddol 2010/2011

Bydd adroddiadau manwl ar berfformiad ariannol yn darparu manylion am y cyllid a gafwyd a'r gwariant a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ynghyd â chyllidebau ac amrywiannau, yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd a'u rhoi ar y wefan.
 
Bydd nifer o gyrff allanol yn monitro ac yn craffu ar berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro mewn amrywiaeth o feysydd. Gall y meysydd hyn ymwneud â meysydd gwasanaeth penodol, ymddygiad proffesiynol, digwyddiadau niweidiol neu'r rheolaeth gyffredinol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.  Bydd Adroddiadau Archwilio yn y dyfodol sy'n deillio o'r adolygiadau hyn yn cael eu hystyried gan y Bwrdd neu un o Bwyllgorau'r Bwrdd, ac fe'u cyhoeddir ar y wefan.

Rhaglen Gyfalaf

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dilyn canllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cyhoeddi ynghylch rhaglenni cyfalaf. Bydd manylion y rhaglen gyfalaf yn cael eu cyhoeddi ar y wefan pan fyddant ar gael. 

Lwfansau a threuliau Staff ac Aelodau Bwrdd

Mae hawl gan Staff ac Aelodau Bwrdd hawlio lwfansau a threuliau o ran eu teithio a'u cynhaliaeth tra byddant yn ymgymryd â gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
 
Mae manylion y treuliau y mae Cyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi'u hadhawlio'n cael eu cyhoeddi ar y wefan pan fyddant ar gael. 

Strwythurau tâl a graddio staff 

Bydd cyflogau a delir i Aelodau Bwrdd a Chyfarwyddwyr Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gael trwy Adroddiad Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 
 
Caiff cyflogau a delir i staff eraill Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eu pennu yn unol â'r Agenda ar gyfer Newid. 

Cyllid

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn derbyn ei holl gyllid gweithredol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae manylion y cyllid a gafwyd i'w gweld yn yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Archwiliedig.

Gweithdrefnau caffael a thendro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dilyn Canllawiau Caffael Cymru Gyfan y GIG, a sefydlwyd gan Gyflenwadau Iechyd Cymru.

Mae'r canllawiau caffael yn amlinellu'r telerau ac amodau safonol y dylai sefydliadau'r GIG yng Nghymru eu dilyn wrth brynu cyfarpar a chyflenwadau. 
 
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn hysbysebu tendrau am nwyddau neu wasanaethau sy'n werth dros £101,323 drwy 
Gyfnodolyn Swyddogol y Gymuned Ewropeaidd (OJEC).
 
Mae rhagor o wybodaeth am y prosesau caffael a thendro i'w gweld yn y Rheolau Sefydlog a'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog.

Rhestr o'r contractau a ddyfarnwyd a'u gwerth 

Bydd gwybodaeth am gontractau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda sefydliadau'r GIG a sefydliadau eraill yn cael eu cyhoeddi ar y wefan pan fyddant ar gael.

Dilynwch ni