Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Un: Pwy ydym ni a beth rydym ni'n ei wneud

Bydd gwybodaeth a ddarperir o fewn y Dosbarth hwn yn cydymffurfio â gofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg.

Cefndir

Ar 1 Hydref 2009, crëwyd saith sefydliad iechyd newydd fel rhan o Broses Ddiwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.  Mae pob sefydliad iechyd lleol unigol yn gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth gofal iechyd o fewn ardal ddaearyddol, yn hytrach na system yr Ymddiriedolaeth a'r Bwrdd Iechyd Lleol a oedd ar waith yn flaenorol.
 
I wasanaethu poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg, crëwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro; mae'r sefydliad newydd hwn yn cyfuno Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg.
 
Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro (y Bwrdd Iechyd) ar ffurf gysgodol ar 1 Mehefin 2009 a daeth yn llwyr weithredol ar 1 Hydref 2009. 
 
Bydd y Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau i ryw 500,000 o drigolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a chymunedau iechyd cyfagos eraill lle y bo'n briodol.
 
Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cynllunio, dylunio, datblygu a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal eilaidd, ynghyd â gwasanaethau trydyddol arbenigol, yn cael eu darparu i Gaerdydd a Bro Morgannwg.  Byddant yn bodloni'r anghenion lleol o fewn y fframwaith polisi a safonau cenedlaethol a amlinellir gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llywodraeth Cymru.  

Atebolrwydd

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn atebol yn ffurfiol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, trwy Brif Weithredwr y sefydliad, am gyflawni ei swyddogaethau a bodloni dyletswyddau ariannol statudol.
 
Mae'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol, dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru, yn llunio rhan o'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Grŵp hwn yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad a chyflwyniad gwasanaethau'r GIG ledled Cymru, ac am gynllunio a rheoli perfformiad y GIG ar ran Llywodraeth Cymru, yn unol â'r cyfeiriad a osodir gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
 
Bydd y Bwrdd Iechyd yn cadw at y safonau llywodraethu da a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru, sy'n seiliedig ar Egwyddorion Llywodraethu Llywodraeth Cymru sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd.

Gwybodaeth am Sefydliadau Partner 

Mae rhannu gwybodaeth am bobl yn ganolog i ddarparu gwasanaethau a gofal yn effeithiol ar draws y sector gwasanaeth cyfan; pwysleisir hyn gan y methiannau cenedlaethol uchel eu proffil lle nad yw sefydliadau wedi rhannu gwybodaeth, er enghraifft Climbie, Soham ac ati.
 
Mae Protocolau Rhannu Gwybodaeth Bersonol yn galluogi camddealltwriaeth a chymhlethdodau cyfreithiol, yn enwedig yn gysylltiedig â'r Ddeddf Diogelu Data, i gael eu goresgyn. I'r perwyl hwn, mae Cymru wedi sefydlu fframwaith o'r enw Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) i alluogi sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â lles unigolyn i rannu gwybodaeth mewn ffordd gyfreithlon a deallus.
 
I ddechrau, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweithio yn unol ag egwyddorion y protocolau Rhannu Gwybodaeth a fabwysiadwyd gan yr Ymddiriedolaeth a'r Byrddau Iechyd Lleol blaenorol sydd ar waith ar hyn o bryd, gyda golwg ar ddatblygu'r protocolau hyn ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn unol â WASPI.

Dilynwch ni