Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i annog awdurdodau cyhoeddus i fod yn fwy agored. Diben y Ddeddf yw sicrhau bod holl feysydd cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored ac yn dryloyw, gan sicrhau bod mwy o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus ar gael yn hawdd.  
 
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (y Bwrdd Iechyd) yn cydnabod bod gan y cyhoedd yr hawl i wybod sut caiff gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd eu trefnu a'u rhedeg.  Mae ganddynt yr hawl i wybod pa wasanaethau sy'n cael eu darparu, y safonau gwasanaeth a ddisgwylir, y targedau sy'n cael eu gosod a'r canlyniadau a gyflawnir, ynghyd â chost darparu'r gwasanaethau y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu cynnig.   

Cynllun Cyhoeddi

I gynorthwyo'r cyhoedd i gael at wybodaeth o'r fath ac i gydymffurfio â'r Ddeddf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi llunio Cynllun Cyhoeddi. Dyma ganllaw cyflawn i'r wybodaeth a gyhoeddwn fel mater o drefn, gan gydymffurfio â'r Cynllun Cyhoeddi Model a luniwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r Canllaw i'n Cynllun Cyhoeddi'n dilyn fformat y saith dosbarth bras o wybodaeth y cyfeirir atynt yn y Cynllun Cyhoeddi Model ac yn y Ddogfen Ddiffinio i Fyrddau Iechyd yng Nghymru.  

Hawl Mynediad Cyffredinol 

Hefyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth sydd heb ei chynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi. Isod, mae amlinelliad bras o'r ffordd y gall y cyhoedd wneud ceisiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am wybodaeth a'r math o wybodaeth sydd ar gael iddynt. 

Dim ond gwybodaeth a fyddai'n cael ei rhoi i unrhyw un sy'n gofyn amdani, neu a fyddai'n addas i'r cyhoedd ei gweld, sy'n gallu cael ei rhoi. Nid yw'n ystyried pwy sy'n gofyn am y wybodaeth na pham y mae angen y wybodaeth arnynt.

Gall aelodau'r cyhoedd ofyn am unrhyw wybodaeth y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ei dal yn eu tyb nhw, ond gall rhywfaint o wybodaeth gael ei heithrio, er enghraifft os byddai'n annheg datgelu manylion personol am rywun arall. 

Rhaid gwneud ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig, er enghraifft trwy lythyr neu e-bost, gan roi eich enw a chyfeiriad post neu e-bost er mwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ymateb.  Mae ein tudalen Cysylltu â Ni yn darparu manylion gohebu a'n manylion e-bost. 

Pan fyddwch yn gwneud cais am wybodaeth, byddwch mor glir â phosibl a chyfeirio at y wybodaeth benodol y mae ei hangen i helpu i ymateb i'ch cais. Cadarnhewch ym mha fformat y byddai'n well gennych gael y wybodaeth, er enghraifft copi caled neu yn electronig.
 
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymateb i geisiadau o fewn 20 diwrnod gwaith o'u cael. 
Gall:

  • ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani;
  • hysbysu'r sawl sy'n gwneud y cais os nad yw'r wybodaeth yn cael ei dal;
  • hysbysu'r sawl sy'n gwneud y cais os yw corff cyhoeddus arall yn dal y wybodaeth;
  • cyhoeddi 'Hysbysiad ffioedd', yn rhoi'r gwybod i'r sawl sy'n gwneud y cais bod ffi i'w thalu yn gysylltiedig â'r cais penodol hwnnw am wybodaeth;
  • gwrthod darparu'r wybodaeth, ac esbonio'r rhesymau dros hynny;
  • hysbysu'r sawl sy'n gwneud y cais bod angen mwy o amser ar y Bwrdd Iechyd i ystyried prawf budd y cyhoedd, a chadarnhau pryd y dylid disgwyl ymateb. 

Mae manylion ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a fydd yn helpu wrth ddrafftio cais. Mae manylion ar gael yma.

Cwynion

Os nad ydych yn hapus a'r ffordd y gwnaeth y Bwrdd Iechyd ymdrin â'ch cais, mae hawl gennych gwyno trwy gysylltu â ni.
 
Byddwn yn ymdrin â phob cwyn yn unol â 'Pholisi Cwyno Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol' Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Os na fyddwch yn fodlon ag unrhyw ymateb i'ch cwyn, mae gennych yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. 

Cofnod Datgeliadau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caedydd a'r Fro wedi cynhyrchu Cofnod Datgeliadau i gynorthwyo'r cyhoedd, sy'n amlinellu'n fyr y ceisiadau blaenorol a gafodd y sefydliad, ynghyd â'r ymatebion perthnasol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
 
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch yn y Cynllun hwn neu ar ein gwefan, Cysylltwch â Ni. Os oes gennym ni'r wybodaeth, byddwn yn ei darparu i chi mor gyflym â phosibl.  

Rhagor o wybodaeth

Cyflwyniad i'n Cynllun Cyhoeddi 
Canllaw i'n gwybodaeth
 
Sylwch: Ffurfiwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar 1 Hydref 2009 trwy uno Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg. Yn unol â hynny, mae'n bosibl na fydd gwybodaeth "lefel uchel" benodol ynghylch y Bwrdd Iechyd newydd (er enghraifft Strwythurau Adrannol, Dogfennau Strategaeth a Chynlluniau 5 Mlynedd) ar gael ar unwaith drwy'r Cynllun Cyhoeddi. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Dilynwch ni