Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth gan Gymheiriaid

Mae cymorth gan gymheiriaid yn fath o ofal sy’n canolbwyntio ar gydberthnasau sy’n defnyddio arbenigedd pobl sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl yn fwriadol. Mae gweithwyr cymorth gan gymheiriaid yn rhannu profiadau i normaleiddio heriau, dangos dynoliaeth gyffredin, helpu rhywun i symud ymlaen, adeiladu cysylltiad a chynnig gobaith. “Canfu adolygiad llenyddiaeth o dros 1,000 o astudiaethau ymchwil y gall Cymorth gan Gymheiriaid helpu pobl i deimlo’n fwy gwybodus, hyderus a hapus, ac yn llai ynysig ac unig.” Papur Cymorth gan Gymheiriaid HEIW 2022

Mae’r MHCB yn datblygu cymorth gan gymheiriaid gyda swyddi Arweinydd Cymheiriaid a Dirprwy Arweinydd Cymheiriaid i wreiddio gweithwyr cymorth gan gymheiriaid ar draws yr MHCB gan ddefnyddio’r model cymorth gan gymheiriaid bwriadol. Mae’r rolau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu llywodraethu a darparu goruchwyliaeth cymheiriaid i’r gweithwyr cymorth gan gymheiriaid yn y swydd ar draws ein gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro hefyd yn cefnogi ac yn darparu datblygiad a hyfforddiant gweithlu cymorth gan gymheiriaid i Gymru.

Dilynwch ni