Mae cyd-gynhyrchu yng ngwasanaethau Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl (MHCB) Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCAF) yn anelu at, ac yn canolbwyntio ar y canlynol:
Rydym yn cydnabod bod llawer o wahanol ffyrdd o gyd-gynhyrchu ac ymgysylltu â’n cymunedau. Gall fod mor syml â gwrando’n gyntaf, gan annog eraill i rannu eu meddyliau’n agored cyn rhannu ein rhai ni a chydweithio i werthfawrogi ystod o gyfraniadau a mewnbwn. Isod gweler rhai manteision (ac ymarferoldeb) cyd-gynhyrchu yn ein gwaith bob dydd yn y MHCB
Cyfathrebu
Mae dysgu mwy am ein gilydd, a’r hyn sydd o bwys i ni fel defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, staff a grwpiau perthnasol eraill, yn bwysig wrth adnabod ein nodau a rennir sy’n creu ffyrdd o weithio mwy effeithlon.
Cynrychiolaeth
Drwy sicrhau bod ein barn ni ac eraill yn cael eu cynrychioli/cynnwys wrth wneud penderfyniadau a rhannu cyfrifoldebau, rydym yn hyrwyddo canlyniadau mwy realistig a pherthnasol.
Tosturi
Mae blaenoriaethu gofalu, a theimlo bod rhywun yn gofalu amdanon ni, a chanolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud ar y cyd, mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfderau, yn gwella ein gwasanaethau a’n profiadau yn y broses.
Dwyochredd
Mae creu’r amodau lle gall pawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn ein helpu i feithrin ymddiriedaeth a chanolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol gyda’n gilydd.
Cydweithio
Pan fydd penderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu datblygu gyda phrofiad bywyd yn ogystal â phrofiad clinigol, rydym yn fwy tebygol o ‘gael pethau’n iawn’, arbed amser a chreu gwasanaethau effeithiol i bawb.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu ymholiadau am gyd-gynhyrchu, cysylltwch â thîm Profiad Bywyd MHCB drwy e-bostio
lived_experience.mhcb.cav@wales.nhs.uk
Caniad - gwasanaeth ymgysylltu â gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth MHCB
Y bobl orau i lunio gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol yw’r bobl hynny sy’n eu defnyddio.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ein nod yw gweithio’n gydgynhyrchiol gyda defnyddwyr gwasanaethau, a’u gofalwyr, sydd wedi cael profiad bywyd o lywio’r system iechyd meddwl, i’w cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch sut y dylid darparu’r gwasanaethau hyn.
O ganlyniad, mae Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro wedi comisiynu Caniad, sefydliad sy’n cefnogi pobl sydd am i’w lleisiau gael eu clywed, dylanwadu ar benderfyniadau, a helpu i lunio gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Ynghyd ag unigolion sydd â phrofiad bywyd fel defnyddiwr gwasanaeth neu ofalwr, byddwn yn gweithio i gynllunio, datblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
I gael rhagor o wybodaeth am Caniad, neu i gael gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan mewn gwasanaethau iechyd meddwl, ewch i’w tudalen we, yma.