Neidio i'r prif gynnwy

Statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau ar 'fonitro uwch'

Ar 5 Tachwedd 2024, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, y statws uwchgyfeirio ar gyfer Byrddau Iechyd ledled Cymru, gan gadarnhau nad yw statws BIP Caerdydd a'r Fro wedi newid.

Mae hyn yn golygu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i fod ar lefel 3 'monitro uwch’ ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, a 'threfniadau arferol' ar gyfer pob maes arall.

Dywedodd Rachel Gidman, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant a Phrif Swyddog Gweithredol Dros Dro: "Rydym yn derbyn y statws dynodi a roddwyd a byddwn yn parhau i weithio ar y meysydd gwella a amlygwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet.

"Er ei bod yn siomedig ein bod yn parhau i fod ar statws monitro uwch, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr ar draws y sefydliad am eu hymdrechion sylweddol i wneud arbedion cost sylweddol. Rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud, fodd bynnag, rhaid i'n hymdrechion a'n ffocws barhau i fod ar sicrhau ansawdd, effeithlonrwydd a chynhyrchiant ar draws y sefydliad a pharhau i wneud ein gorau glas i gleifion a chymunedau Caerdydd a Bro Morgannwg."

Gwnaed y datganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Tachwedd. I wrando ar y cyhoeddiad, ewch i'r ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

Dilynwch ni