4 Gorffennaf 2024
Mae cydweithwyr yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i ymgyrch newydd sy'n annog pobl i gael y brechlyn ar gyfer y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR).
Mae’r frech goch yn cylchredeg yng Nghymru ar hyn o bryd, gydag 17 o achosion yng Ngwent bellach ers dechrau’r achosion ym mis Ebrill 2024. Mae pryderon y gallai'r clwy ledu i Gaerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal ag awdurdodau lleol eraill cyfagos.
Mae swyddogion iechyd yn atgoffa rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu'n llawn gyda dau ddos o'r brechlyn MMR. Y darged ar gyfer nifer y plant pum mlwydd oed sy’n manteisio ar y brechlyn yw 95% yng Nghymru, ond nid oes unrhyw glwstwr o bractisau meddygon teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cyrraedd y targed hwn ar hyn o bryd, sy’n rhoi’r boblogaeth mewn perygl.
Yn ogystal ag achosi symptomau fel brech neu deimlo fel bod gennych chi annwyd, gall un o bob 15 o blant fynd ymlaen i ddatblygu cymhlethdodau difrifol oherwydd y frech goch fel colli clyw, dallineb, niwmonia a llid yr ymennydd. Mewn achosion prin, gall fod yn angheuol.
Mae'r frech goch hefyd yn un o'r clefydau mwyaf heintus yn y byd, sy'n golygu y gall ledaenu'n rhyfeddol o gyflym os nad yw pobl yn cael eu brechu. Fodd bynnag, mae dau ddos o'r brechlyn MMR yn fwy na 95% yn effeithiol o ran atal y frech goch.
Rhoddir y dos cyntaf o MMR fel mater o drefn mewn meddygfeydd teulu i fabanod 12 mis oed, a'r ail ychydig ar ôl tair oed. Fodd bynnag, nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yn erbyn y frech goch.
Mewn ymgais i hybu cyfraddau brechu, mae fideo newydd wedi'i greu gyda thri chydweithiwr yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru sy'n amlinellu peryglon y frech goch a phwysigrwydd sicrhau bod nifer uchel o bobl yn manteisio ar y brechlyn.
Mae angen i bawb chwarae eu rhan i leihau’r risg o achosion eang o’r frech goch yng Nghymru. Mae angen i ni gynyddu nifer y bobl sy'n cael y brechlyn MMR os ydym am gadw ein cymunedau'n ddiogel rhag niwed. Mae brechu yn achub bywydau,” dywedant.
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd BIP Caerdydd a’r Fro: “Hoffwn estyn fy niolch personol i gydweithwyr yn yr ysbyty plant am roi o’u hamser i helpu’r ymgyrch hollbwysig hon.
“Mae’r brechlyn MMR yn rhad ac am ddim, yn ddiogel ac yn hynod effeithiol o ran lleihau’r niwed y gall y frech goch ei achosi. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo o fewn ein Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol a thimau brechu i wella nifer y plant ifanc iawn a’r plant mewn ysgolion sy’n manteisio ar y brechlyn, ac mae sesiynau dal i fyny yn cael eu cynnal mewn ysgolion ar hyn o bryd.”
Yn yr un modd, mae swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori teuluoedd sy’n bwriadu mynychu digwyddiadau torfol neu sy’n bwriadu teithio’n rhyngwladol dros fisoedd yr haf i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo yn y lleoliadau hyn.
Dywedodd Beverley Griggs, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion amlasiantaethol: “Rydym yn achub ar y cyfle hwn i atgoffa rhieni a gofalwyr y dylent sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu’n llawn cyn mynychu digwyddiadau torfol yn ystod yr haf. Gwyddom fod y frech goch yn trosglwyddo’n hawdd pan fydd pobl yn agos at ei gilydd.
“Dylai pobl hefyd sicrhau eu bod yn cael eu brechu os ydyn nhw’n teithio dramor, yn enwedig i wledydd lle mae cyfraddau brechu’r frech goch yn is.”
Gall rhieni a gofalwyr wirio statws brechlyn MMR eu plentyn trwy wirio llyfr coch eu plentyn. Fel arall, gallant ffonio’r Tîm Iechyd Plant Lleol ar 02921 836926 neu 02921 836929.
Mae sesiynau galw heibio ar gyfer y brechlyn MMR ar gael i bob plentyn ac oedolyn yng Nghaerdydd a’r Fro yn y ddwy ganolfan frechu gymunedol gan y Bwrdd Iechyd:
I gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y brechlyn MMR ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.