Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs yn myfyrio ar leoliad deufis 'bythgofiadwy' yn ne Affrica

16 Mai 2024

Mae nyrs a dreuliodd ddeufis gyda chlinigwyr a chleifion yn Lesotho yn ne Affrica wedi myfyrio ar ei phrofiad "bythgofiadwy".

Gwnaeth Hibaq Musa, Nyrs Glinigol Gyswllt mewn Atal a Rheoli Heintiau, gymryd rhan yn y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (ILO) a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y lleoliad cyffrous yn cynnig cyfle iddi weithio ochr yn ochr â chydweithwyr iechyd yn Lesotho, rhannu ei harbenigedd mewn IP&C a gwella ei sgiliau arwain.

Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, roedd Hibaq wedi'i lleoli yn Quthing, ardal anghysbell tua thair awr o brifddinas Maseru, lle cafodd ei hintegreiddio'n llawn i'r gymuned.

"Roedd yn agoriad llygad, ond yn un roeddwn i'n ei fwynhau'n fawr," meddai.

Gan nad oedd adran IP&C benodol yn yr ysbyty ardal, dywedodd Hibaq iddi gael ei pharu gyda'r Swyddog Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol i helpu i ddeall mwy am yr heriau y mae’r ardal yn eu hwynebu.

"Daeth pob ardal yn Lesotho at ei gilydd unwaith y mis i rannu'r hyn maen nhw'n ei wneud a sut y gallan nhw gefnogi ei gilydd, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n hynod ddefnyddiol," meddai.

"Fe wnes i helpu gydag ochr addysg pethau a cheisio gwella gweithio ar y cyd. Rydym yn dweud yn IP & C bod atal a rheoli heintiau yn gyfrifoldeb i bawb, o'r staff i'r cleifion i'r ymwelwyr. Roeddwn i'n gallu hyfforddi staff anghlinigol mewn IP&C, fel cadw tŷ ac arlwyo, ynghyd â rhai aelodau o'r gymuned."

Dywedodd Hibaq, 27, mai un o'r heriau mwyaf oedd rheoli lledaeniad y frech goch mewn ardal lle roedd cyfraddau brechu yn anhygoel o isel.

"Yng Nghymru mae gennym frechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR), ond oherwydd bod cyfraddau'r frech goch mor isel [yn Quthing] dim ond brechlyn clwy'r pennau a rwbela (MR) oedd ganddyn nhw," eglurodd.

"Doedden nhw ddim wedi cael achosion o'r frech goch ers nifer o flynyddoedd, ond yn sydyn rhyw ddeufis cyn i mi gyrraedd roedden nhw'n eu gweld nhw. Nid oedd rhieni'n deall pam roedd angen iddynt frechu gan nad oeddent erioed wedi gweld y frech goch o'r blaen, neu nad oeddent yn deall y symptomau mewn gwirionedd.

"Roedd llawer o waith i'w wneud i addysgu'r cyhoedd ac ysgolion am y niwed y gall y frech goch ei achosi heb y brechlyn. Yn anffodus, roedd llawer o blant yn eithaf sâl ac yn gorfod mynd i'r ysbyty yn y brifddinas gan fod ein hysbyty ardal yn rhy fach."

Disgrifir Lesotho fel y "deyrnas yn yr awyr" oherwydd ei hamrywiaeth o fynyddoedd. "Mae llawer o bobl yn dal i fyw ar ben y mynyddoedd yma, felly roedd cael mynediad iddyn nhw yn anodd weithiau. Roedd yn rhaid i mi hefyd ymgynefino fy hun a gymerodd dipyn o amser i mi," meddai.

"Os ydw i'n delio ag ymchwydd o achosion yma yng Nghymru, gallaf ffonio neu ymweld â'r ward yr effeithir arni. Ond draw yno, cawsom ein hunain yn gorfod heicio - neu hyd yn oed reidio ceffyl i fyny'r mynyddoedd gan mai dim ond i ryw fan penodol y gallai'r car fynd â chi.

"Roeddwn i'n hyderus iawn yn marchogaeth ceffylau erbyn diwedd y lleoliad."

Ar 2 Mai, 2024 ymwelodd brenin Lesotho â Chaerdydd fel rhan o daith o amgylch Ewrop - a gwahoddwyd Hibaq i ymuno fel rhan o'r parti croesawu.

"Roedd y brenin eisoes yn ymwybodol o'r rhaglen ILO, felly roedd hi'n braf cael y gydnabyddiaeth yna," ychwanegodd.

Dywedodd Yvonne Hyde, Pennaeth Nyrsio, Atal a Rheoli Heintiau: "Rwy'n hynod falch o gael Hibaq yn gweithio gyda ni yn IP & C. Mae hi wedi cyflawni llawer iawn ers ymuno â'r tîm yn 2021 ac mae'n gydweithiwr annwyl a gwerthfawr."

Dilynwch ni